|
Article on other languages: |
Denarius o Palmyra sy'n dangos y Frenhines Zenobia, ar y chwith, â'r geiriau S[EPTIMIA] ZENOBIA AVG[USTUS]; ar y dde llun o'r dduwies Juno â'r geiriau IVNO REGINA (271-272)
Septimius Zenobia (hefyd Xenobia), brenhines Ymerodraeth Palmyra (fl. c. O.C. 230-280), merch y pennaeth Arabaidd Zabaai ben Selim. Priododd Zenobia Septimius Odenathus, llywodraethwr Rhufeinig lled-annibynnol Palmyra. Cafodd fab, Vabalathus, ganddo. Ar farwolaeth Odenathus yn 267 cymerodd Zenobia awennau'r deyrnas gan deyrnasu yn enw ei mab ifanc. Roedd Palmyra yn brifddinas teyrnas led-annibynnol a oedd yn cynnwys Syria a rhan helaeth o Asia Leiaf erbyn hynny. Roedd Zenobia yn arweinydd cyfrwys ac uchelgeisiol a geisiai ymestyn ffiniau ei theyrnas i'r de ac i'r gorllewin. Yn swyddogol roedd Palmyra yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Oherwydd ei safle strategol rhwng gweddill yr Ymerodraeth Rufeinig ac Ymerodraeth y Sassaniaid (Persia), yn ogystal â'i bwysigrwydd economaidd fel emporiwm rhwng Mesopotamia ac arfordir y Môr Canoldir, roedd Zenobia yn medru chwarae'r ddwy ymerodraeth fawr yn erbyn ei gilydd tra'n ymestyn ffiniau a dylanwad Palmyra. Honnai Zenobia ei bod yn ddisgynyddes i Dido (Elissa), y frenhines a sefydlodd Carthage, hen elyn Rhufain yn y frwydr am reolaeth ar y Môr Canoldir, i Cleopatra a Mark Anthony (mae haneswyr yn tueddu i dderbyn hyn heddiw), ac i Semiramis. Gwelir yn hyn ymwybyddiaeth y frenhines o'i gwreiddiau Phenico-arabaidd ynghyd â'i ymdeimlad am hanes a'r achos "brodorol", fel petai, yn erbyn grym imperialaidd Rhufain.
Llun dychmygol o Zenobia gan Carlo Antonio Tavella (1668-1738) (olew ar ganfas)
Roedd hi'n ferch drawiadol. Mae'n werth dyfynnu crynhoad yr hanesydd Edward Gibbon o'r disgrifiad a rydd ffynhonellau clasurol ohoni:
Yn 269 cipiodd yr Aifft. Cododd hyn wrychyn y Rhufeiniaid. Yn 272 daeth Aurelian â byddin i oresgyn Palmyra. Ymladdodd Zenobia yn ddewr ond enillodd Aurelian ddwy frwydr bwysig, yn Immae ac Emessa, a bu rhaid i Zenobia syrthio'n ôl ar y brifddinas. Ceisiodd ffoi i Persia â'i mab ond fe'u dalwyd yn yr anialwch. Dygodd Aurelian hi i Rufain. Pan ddathlwyd ei Fuddugoliaeth yn y brifddinas Rufeinig cafodd Zenobia y fraint o wisgo cadwynni aur yn yr orymdaith. Cafodd ei thrin yn drugarhaol gan y Rhufeiniaid, oedd yn aml yn lladd eu gelynion ar ôl dathlu Buddugoliaeth, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach roedd hi'n byw mewn fila yn Tibur (Tivoli heddiw). Yn ôl un ffynhonnell priododd seneddwr Rufeinig a chafodd blant ganddo. Sut bynnag y bu am hynny gwnaeth enw iddi ei hun fel athronydd a seren cymdeithas ym mhrifddinas ei hen elynion; arwydd o rym ei phersonoliaeth a'i harddwch corfforol. Ffynonellau
Cysylltiadau allanol |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net