|
Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaeneg i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen i mewn i’r ugeinfed ganrif.
HanesPrif erthygl: Hanes yr Almaen Y cofnod cyntaf o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius yn Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein. Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9fed ganrif, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slovenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogleddyr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16eg ganrif, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig". Rhwng 1618 a 1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau heb gysylltiad a chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia. Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna ffurfiwyd Ymerodraeth yr Almaen yn 1871, gydag Otto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffôdd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd. Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 1939 - 1945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan ad-unwyd y wlad. DaearyddiaethPrif erthygl: Daearyddiaeth yr Almaen Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys Afon Rhein, Afon Elbe, Afon Weser ac Afon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd. DemograffegPrif erthygl: Demograffeg yr Almaen Gyda poblogaeth o tua 82,220,000, yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfangwbl o fewn Ewrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda Twrciaid y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn 2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd. Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "leiafrifoedd cenedlaethol", y Daniaid, Frisiaid, Roma a Sinti, a'r Sorbiaid. Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y 1960au bu mewnfudiad o Almaenwyr ethnig o Kazakhstan, Rwsia a'r Wcrain. Er i'r rhan fwyaf o Iddewon yr Almaen gael eu lladd yn yr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda dros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers 1991. Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:
CrefyddY prif enwadau a chrefyddau yw:
Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne Bafaria, ac yn ardal Cwlen, tra mae Protestianiaid yn fwyaf niferus yn y gogledd. TaleithiauMae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land):
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net