|
Y rhyfel mwyaf eang a chostus mewn hanes oedd Yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel hwn cafodd tua 50 miliwn o bobl eu lladd. Roedd Prydain a'r Gymanwlad Brydeinig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar y naill ochr a'r Almaen, yr Eidal a Siapan ar y llall. Prif ardaloedd y brwydro oedd Ewrop, Dwyrain Asia a'r Cefnfor Tawel. Dyma'r rhyfel cyntaf lle roedd awyrennau yn bwysig iawn. Yn wir dechreuodd y rhyfel pan ymosododd Adolf Hitler ar Wlad Pŵyl trwy ei bomio. Daeth y rhyfel i ben pan ollyngodd America fom atomig ar Nagasaki. Yn ystod y rhyfel hon cafodd mwy o bobl nag erioed o'r blaen eu lladd mewn rhyfel. Y prif reswm dros hynny oedd graddfa rhyfel heb ei ail a rhwswm arall roedd bomio trefi yn ystod y rhyfel fel y gwnaeth yr Almaen yn erbyn Gwlad Pŵyl a byddin y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen. Cafodd llawer o bobl eu lladd mewn gwersylloedd difodi hefyd.
Achos y RhyfelRoedd nifer o resymau am y rhyfel hwn. Cytundeb VersaillesRoedd Cytundeb Versailles, a arwyddwyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi golygu bod yr Almaen wedi colli ei trefedigaethau, ac fe drosglwyddwyd rhan sylweddol o'i thir i Ffrainc a Gwlad Pwyl ac nid oedd yr Almaen i gael ond byddin fach amddiffynol. DirwasgiadBu dirwasgiad difrifol yn yr Almaen rhwng y ddwy ryfel byd. Roedd hyn yn waeth yn y 1920au nac yng ngweddill Ewrop. Erbyn y 1930au fodd bynnag roedd rhan sylweddol o'r byd datblygiedig yn dioddef caledi ac anghydfod gwleidyddol a cymdeithasol y Dirwasgiad Mawr. Twf y NatsïaidRoedd telerau llym Cytundeb Versailles a'r trafferthion economaidd wedi gwneud i'r Almaenwyr deimlo nad oeddent yn cael chwarae teg gan wledydd eraill. Rhoddodd hyn hwb i dyfiant y Blaid Natsïaidd. Daeth ei harweinydd Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen ar 30 Ionawr 1933 ac mewn effaith yn unben gyda marwolaeth yr arlywydd Paul van Hinderberg. Dechrau'r RhyfelNid oes cytundeb ar union ddyddiad dechrau'r rhyfel. Y dyddiad mwyaf cyffredin a dderbynnir yw 1 Medi 1939, pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl, gyda Phrydain a Ffrainc yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Mae eraill yn crybwyll y 7 Gorffennaf 1937 fel dyddiad dechrau'r rhyfel, pan ymosododd Siapan ar Tsieina ac eraill wedyn yn nodi Mawrth 1939 a'r adeg yr aeth byddinoedd Hitler i mewn i Prague, Tsiecoslofacia. Y Rhyfel yn EwropDechreuodd y rhyfel yn Ewrop ar 1 Medi 1939 wrth i'r Almaen ymosod ar Wlad Pwyl a gwnaeth Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ddatgan rhyfel o fewn dau ddiwrnod ar y 3 Medi 1939. Daeth y rhyfel i ben yn Ewrop ar 18 Mai 1945 pan ildiodd yr Almaen. Y Rhyfel yn y Cefnfor Tawel ac AsiaYn Asia, dechreuodd y rhyfel gydag ymosodiad Siapan ar Tsieina ym 1937. Parhaodd y rhyfel yn Asia a'r Cefnfor Tawel tan i Siapan ildio ar yr 2 Medi, 1945, yn sgîl y bomio atomig ar Hiroshima a Nagasaki. Y Rhyfel yn y Môr Canoldir a Gogledd AffricaEffeithiau'r RhyfelO ganlyniad i'r rhyfel hon daeth ynysiaeth yr Unol Daleithiau i ben, ail-adeiladwyd yr Almaen a Siapan fel gwledydd diwydiannol pwysig iawn, daeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ddwy archbŵer, a sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig er mwyn ceisio rhwystro rhyfel byd yn y dyfodol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net