|
Article on other languages:
|
DTL-EKA AEL je muška košarkaška sekcija sportskog društva AEL Limassol. U tom sportskom društvu osim 1826 a'r un fwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu yr A55 â'r ynys ynghyd a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael ei Seisnigeiddo dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r Fro Gymraeg. Mae'r dref â'r enw hiraf yng Nghymru ar yr ynys, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Ond enw gwneud ar gyfer y twristiaid ydyw: bydd pobl Môn yn ei alw'n Llanfair neu Llanfairpwll (Llanfair PG yn Saesneg). Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai.
Môn Mam CymruErs canrifoedd lawer mae'r ynys yn adnabyddus fel "Môn Mam Cymru". Ceir y cyfeiriad cynharaf at yr enw sydd ar glawr yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188) gan Gerallt Gymro:
Hanes Ynys Môn
Priordy Penmon: y ffreutur a'r man cysgu
Ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd ei gelynion yn gallu cael lloches. Yr oedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi ei gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael copr yno. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn 60 neu 61 O.C. pan groesodd byddin dan Gaius Suetonius Paulinus dros Afon Menai mewn cychod a chipio'r ynys. Yn ôl Tacitus roedd yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r Derwyddon, ac efallai fod cysylltiad rhwng hyn a'r casgliad mawr o arfau a chelfi eraill a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach. Credir fod y rhain wedi eu gosod yn y llyn fel offrymau. Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae Cybi, Seiriol, Dona ac wrth gwrs Dwynwen, santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar Ynys Llanddwyn. Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Oherwydd bod ŷd yn tyfu yno roedd nifer o felinau gwynt ar yr ynys flynyddoedd yn ôl. Yr oedd prif lys tywysogion Gwynedd yn Aberffraw. Adeiladodd Edward I, Brenin Lloegr gastell yn Biwmares i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys. Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y rhyfel cartref rhwng y brenin ac Oliver Cromwell. Dechreuwyd mwyngloddio copr ym Mynydd Parys ger Amlwch yn 1768, ond mae tystiolaeth fod y Rhufeiniaid wedi darganfod copr yno cyn hynny. Cantrefi a chymydauYn yr Oesoedd Canol roedd Ynys Môn yn cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:
Cestyll a hynafiaethau
HeddiwHeddiw Llangefni yw prif dref yr ynys. Mae'r ynys yn Etholaeth Cynulliad ac yn Etholaeth Seneddol ac yn rhan o Rhanbarth Gogledd Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) yw Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Albert Owen (Plaid Lafur) yw'r Aelod Seneddol. Cymunedau MônCeir sawl cymuned ym Môn: Eisteddfod GenedlaetholGefeilldrefi Ynys Môn
GeirdarddiadMae canlyniadau ymchwiliadau DNA diweddar sy'n cysylltu cyndadau'r Cymry â'r Basgwyr yn codi'r posibilrwydd bod yr enw Môn (Mona yn yr Hen Frythoneg) yn rhannu'r un tarddiad â'r gair Basgeg amona, "nain", yn llythrennol "mam fawr". Gweler hefydCysylltiadau allanol
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net