|
Article on other languages:
|
Gwladwriaeth Dwrcaidd yn y Dwyrain Canol yn cynnwys Anatolia (neu Asia Leiaf), a rhannau o dde-orllewin Asia, Gogledd Affrica a de-ddwyrain Ewrop oedd Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i sefydlwyd gan y Tyrciaid Oghuz, llwyth Tyrcaidd o orllewin Anatolia, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac fe'i diddymwyd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf ac esgyniad Kemal Atatürk i rym yn Nhwrci. Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg roedd hi'n un o'r ymerodraethau mwyaf nerthol yn y byd ac roedd gwledydd Ewrop yn wyliadwrus ohoni oherwydd ei bod yn dal i ehangu ei thiriogaethau ar orynys y Balcanau. Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I (Uthmān, yn Arabeg; sail yr enw Ottoman). O'r flwyddyn 1453 ymlaen Caergystennin, a ddaeth i'w galw'n İstanbul) ar ôl hynny, oedd prifddinas yr ymerodraeth.
HanesSefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I ym 1281. Cipiodd y Swltan Mehmed II Gaergystennin (Istanbul heddiw) ym 1453 a datblygodd ei deyrnas i fod yn ymerodraeth enfawr. Roedd ei ffiniau ar ei ehangaf yn ystod tyernasiad Suleiman y Godidog yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pan yr oedd yn cynnwys yr holl dir rhwng Gwlff Persia yn y dwyrain a Hwngari yn y gorllewin, ac o'r Aifft yn y de i'r Cawcasws yn y gogledd. Ym 1683 gorchfygwyd yr ymerodraeth ym Mrwydr Fienna ac yn sgîl hynny dirywiodd yn araf cyn cael ei gorchfygu yn derfynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Strwythr yr ymerodraethPen y hierarchaeth oedd y swltan. O dan y swltan yr oedd fisierau, swyddogwyr llys eraill ac arweinwyr milwrol. DiwylliantEr iddi fod yn wlad grefyddol iawn yn y dechrau gan fod y rheolwyr yn Gazi (Rhyfelwyr Sanctaidd) ac yn cymryd rhan mewn Jihad (Rhyfel Sanctaidd) yn erbyn Cristnogaeth, ar ôl chwalu'r Bysantiaid o Anatolia a'u gyrru i Ewrop, roedd yr ymerodraeth yn oddefgar iawn. Yn ystod y cyfnod pan ehangodd ei thiriogaeth i'r gorllewin, cymhathodd y diwyllianau Groeg a Balcanaidd ac roedd arweinwyr Twrci ei hunain yn derbyn rhan o'r diwylliant gorllewinol. Fel hynny, creuasant ddiwylliant Ottoman arbennig. Ar ôl cipio Caergystennin ym 1453 ni ddinistriwyd yr eglwysi a dim ond nifer fach ohonynt a drowyd yn fosgiau (er enghraifft Hagia Sophia yn Istanbul). Roedd bywyd y llys Ottoman fel bywyd Shahau Persia, ond roedd yna ddylanwad Ewropeaidd (Groegaidd yn bennaf), yn ogystal. Am ganrifoedd bu Iddewon Ewrop yn ffoi i'r Ymerodraeth Ottoman am noddfa. Strwythr milwrolRoedd strwythr milwrol yr ymerodraeth yn gymhleth iawn. Roedd y gwŷr meirch ysgafn yn bwysicaf, ac roedd ganddynt ffiffau o'r enw timar. Roeddynt yn defnyddio bwâu, cleddyfau ac yn ymladd â thactegau cyffelyb i rheini Ymerodraeth y Mongoliaid; hwy hefyd oedd y lluoedd cyntaf i ddefnyddio musgedi. Roedd llu y Janisariaid yn enwog fel llu arbennig y swltan. Fodd bynnag, o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen roedd cryfder y lluoedd Ottoman yn lleihau am nad oeddynt wedi cael eu diwygio a hefyd - yn bennaf, efallai - oherwydd llygredd y Janissary, a dileuwyd mewn canlyniad ym 1826. TaleithiauPan oedd tiriogaeth yr ymerodraeth ar ei ehangaf, roedd hi'n cynnwys 29 o daleithiau, tair talaith deyrnngedol a thalaith ddeiliad Transsylvania, teyrnas yr oedd ei llywodraethwyr wedi tyngu llw o deyrngarwch i'r swltan. Swltaniaid
Swltan Suleiman I (Amgueddfa Topkapi Seraia, Istanbul)
Y swltan oedd unig lywodraethwr yr ymerodraeth ac ef ei hun oedd y llywodraeth swyddogol. Enw teuluol y swltans oedd Osmanli. Ond yn y dechrau, nid swltans ond beys oeddynt.
|
||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net