|
Bwriad y dudalen hon yw eich helpu chi i ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia. Mae'r canllawiau isod yn ceisio helpu cysoni Wicipedia er mwyn hwyluso darllen erthyglau a dod o hyd i wybodaeth ar Wicipedia. Ceir canllawiau ysgrifennu yn Gymraeg ar y dudalen canllawiau iaith.
CanrifoeddArgymhellir ysgrifennu canrifoedd ar Wicipedia fel a ganlyn: Ar gyfer canrifoedd cyn Crist defnyddir y byrfodd "CC": 4edd ganrif CC. Enwi erthyglauTeitl erthygl sydd angen y fannod (y/yr)Os ydych yn ysgrifennu tudalen am dermau sydd angen y fannod "y" neu "yr", dylid rhoi'r fannod yn rhan o deitl y dudalen, e.e. Y Gymanwlad neu Yr Undeb Ewropeaidd, nid Cymanwlad neu Undeb Ewropeaidd. Cofier ei fod o ddefnydd i greu tudalennau ail-gyfeirio ar gyfer yr enw heb y fannod, e.e. i ail-gyfeirio Cymanwlad at Y Gymanwlad. Teitlau erthyglau ar deyrnoedd ac aelodau teuluoedd brenhinol
Ceir nodiadau ar y gramadeg perthnasol yn Wicipedia:Canllawiau iaith#O a materion cysylltiedig. Termau amgen
Enwau lleoeddCeir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg Newydd (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeining a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisoes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji. Argymhellir dilyn sillafiad yr Atlas Cymraeg Newydd ar Wicipedia, fel ag ar restr gwledydd y byd. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl. Gellir ymghynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sillafiad Cymraeg enwau lleoedd tramor trwy anfon e-bost at enwaulleoedd@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Os yw ffurf Gymraeg neu enw tramor ar le o bosib yn ddieithr gellir ychwanegu'r enw Saesneg mewn cromfachau wedi'r defnydd cyntaf o'r enw mewn erthygl, e.e. Napoli (Naples), Efrog (York). Neu os yw enw lle yn cael ei gysylltu â'r erthygl ar y lle trwy gyswllt wici mae'n bosib i'r darllenydd gwirio'r ystyr trwy ddilyn y cyswllt. (I ddilyn peth o hanes trafod enwau lleoedd gweler Sgwrs:Gwledydd y byd.) Termau sy'n amrywio yn ôl ardalCeir termau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd megis afu a iau. Nid yw un term yn fwy cywir nac un arall ond y mae un term weithiau'n fwy 'safonol' nac un arall yn yr ystyr bod y term yn eithaf cyfarwydd y tu allan i'w fro tafodieithol, gan amlaf am mai dyna'r term yr arferir mewn llenyddiaeth. Fe welir mwy o ddefnydd ysgrifenedig o'r termau llai eu defnydd nag a fu, er enghraifft, ysgrifennir llefrith yn hytrach na'r term safonol llaeth yn aml. Os oes un term yn fwy cyfarwydd na'i gilydd argymhellir defnyddio'r un mwyaf cyfarwydd ar gyfer Wicipedia. Yr hyn sy'n bwysicach na'r dewis o derm yw cofio rhoi'r termau amgen yn yr erthygl a chreu tudalennau ailgyfeirio o'r term amgen. Cenedl enw yn amrywioMae rhai enwau yn gallu bod yn fenywaidd neu'n wrywaidd eu cenedl, megis llythyr, munud, tudalen. Un o'r rhesymau y gall cenedl enw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd yw bod yr arfer yn wahanol mewn tafodieithoedd gwahanol. Mae'r gogleddwr yn gwybod yn bendant mai'r tudalen hwn y sonnir amdano a hynny heb fynd ar gyfyl geiriadur. Mae'r deheuwr yr un mor bendant mai'r dudalen hon y sonnir amdani. Y ffordd i sicrhau nad yw golygyddion yn 'cywiro' cenedl gair yn ddiangen, gan ddamsgen (sathru!) traed rhywun arall yn ddiarwybod, yw trwy chwilota yn y geiriadur cyn cywiro. Mae rhai geiriau benthyg hefyd yn ansicr eu cenedl megis piano, disg. Wedi dweud hyn nid yw cenedl gair yn newid yn ôl ac ymlaen fel yoyo. Mae sôn am y tudalen hon yn anghywir. Os oes anghysondeb mewn cenedl gair o fewn erthygl yna gwell cysoni. Enghreifftiau o enwau sydd yn gallu bod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, heb newid ystyr yn ôl y genedl, yw:
(Gwerthfawroger derbyn ychwanegiadau at y rhestr hon) Tudalennau gwahaniaethuAr gyfer termau sydd â mwy nag un ystyr (fel Mawrth, sydd yn golygu naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth") bydd yn rhaid cyflwyno tudalen wahaniaethu. Mae dau fath o dudalen wahaniaethu o flaen pob erthygl perthnasol; naill ai mae defnyddio'r term yn eich hebrwng yn syth at y dudalen gwahaniaethu (e.e. Conwy (gwahaniaethu)), neu fe ewch at erthygl sy'n defnyddio'r term a dolen ar ben y dudalen honno yn eich hebrwng at y dudalen wahaniaethu (e.e. Tsieina). Wrth gwrs, mae'r cyntaf (sef tudalen wahaniaethu o flaen pob tudalen perthnasol) yn well, ond os oes llawer o gysylltiadau i Wicipediau mewn ieithoedd eraill ers meitin efallai ei bod hi'n syniad defnyddio'r ail ddull. Pan nad oes rhagor na dau ystyr gan derm, a bod gan y dudalen lawer o gysylltiadau rhyngieithol ers meitin, gallwch ysgrifennu brawddeg sydd yn awgrymu'r ystyr arall ar ddechrau'r erthygl sy'n cysylltu i'r dudalen newydd (e.e. fel Gwyn Thomas). |
||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net