|
Gwlad yn y Môr Tawel sydd yn cynnwys dwy ynys fawr (Ynys y Gogledd ac Ynys y De) a nifer o ynysoedd bychain yw Seland Newydd. Yn iaith y Maori, pobl wreiddiol yr wlad, Aotearoa yw ei henw, a chyfieithir yr enw yn aml fel "gwlad o dan gwmwl gwyn hir". Yn ôl y chwedlau, roedd cwmwl gwyn uwchben uwch pan ddaeth y bobl gyntaf i'r wlad. Auckland ar Ynys y Gogledd yw'r ddinas fwyaf, ond Wellington (ar yr un ynys) yw'r brifddinas. Y mynydd uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 m (12,316')) ar Ynys y De. Awstralia yw'r wlad agosaf. Mae Caledonia Newydd, Ffiji a Thonga i'r gogledd, ond cryn bellter i ffwrdd. Er gwaethaf yr enw, dydy'r môr o gwmpas yr ynysoedd ddim yn dawel o gwbl yn aml, ac mae'n gallu ei gwneud yn anodd i hwylio ar draws y "Cook Strait" rhwng y ddwy brif ynys. Y chwaraeon poblogaidd yw Rygbi, criced, socer a phêl-droed rheolau Awstralaidd. Enw tîm rygbi cenedlaethol Seland Newydd yw'r Crysau Duon (mae eu gwisg yn gwbwl ddu). Mae'r ddawns ryfel "Haka" yn cael ei gwneud yn aml cyn eu gêmau. Mae'r aderyn Kiwi yn symbol o'r wlad, a defnyddir Kiwi yn anffurfiol fel enw neu ansoddair am y wlad neu'r bobl.
Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth Seland Newydd
Hanes
Prif erthygl: Hanes Seland Newydd
Gwleidyddiaeth
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Seland Newydd
Diwylliant
Prif erthygl: Diwylliant Seland Newydd
Economi
Prif erthygl: Economi Seland Newydd
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net