Gwlad yn Oceania yn ne'r Cefnfor Tawel yw Samoa (Gorllewin Samoa o 1914 tan 1997). Mae'n cynnwys hanner gorllewinol Ynysoedd Samoa; mae'r ynysoedd dwyreiniol yn perthyn i Samoa America. Savai'i ac Upolu yw prif ynysoedd y wlad. Lleolir y brifddinas Apia ar Upolu.