Robert Peel

Article on other languages:

Robert Peel
Robert Peel

Cyfnod yn y swydd
10 Rhagfyr 1834 – 8 Ebrill 1835
Rhagflaenydd Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington
Olynydd William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne
Cyfnod yn y swydd
30 Awst 1841 – 29 Mehefin 1846
Rhagflaenydd William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne
Olynydd Arglwydd John Russell

Geni 5 Chwefror 1788
Bury, Swydd Gaerhirfryn
Marw 2 Gorffennaf 1850
San Steffan, Llundain
Plaid wleidyddol Ceidwadol

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 17882 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846. Diwydiannwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."

Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Roedd Robert Peel yn un o'r Torïaid cyntaf i sylweddoli bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.

Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth Eglwys Loegr. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "Organge Peel" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.

Trwy Faniffesto Tamworth yn 1934, fe osododd yn ffurfiol seiliau ei Geidwadaeth newydd, a fyddai'n cydnabod buddiannau llawer ehangach na'r hen Dorïaeth. Yn y ddogfen hon, fe dderbynniodd Ddeddf Ddiwygio 1832 - y Great Reform Act - y ddeddf a roddodd y bleidlais i ddosbarth canol y trefi. Newid mawr iawn oedd hwn o bolisi blaenorol y Torïaid, er bod Peel yn credu nad oedd dim angen estyn y bleidlais ymhellach, ac roedd e'n hollol wrthwynebus i ddemocratiaeth.

Dywedodd hefyd ym Maniffesto Tamworth ei fod am gytbwyso buddiannau amaeth, masnach a diwydiant, newid mawr arall o hen bwyslais y Torïaid ar y landed interest.

Ymhlith ei waith pwysicaf fel Prif Weinidog roedd deddf yn 1842 i wahardd menywod a phlant rhag gweithio dan ddaear yn y pyllau, a deddf yn 1844 yn lleihau oriau gwaith gweithwyr y ffatrïoedd. At hynny, fe dynnodd tua chant o droseddau oddi ar y rhestr o bethau y gallai rhywun gael ei grogi amdanynt - cyn hynny roedd smalio bod yn un o Bensiynwyr Chelsea yn gallu arwain at y gosb eithaf.

Cadarnhaodd Peel yn yn 1846 na fyddai'r Geidwadaeth newydd yn was bach i'r tirfeddianwyr pan ddileuodd y Deddfau Ŷd. Roedd y deddfau hyn yn symbol o rym tirfeddianwyr cefn gwlad, gan warantu pris uchel am ŷd, ac arwain felly, yn ôl rhai, at fara drud i bobl y trefi.

Mae hefyd yn nodedig am greu Heddlu Llundain - y Metropolitan Police - yn 1829, yr heddlu ffurfiol cyntaf ym Mhrydain. Roedd y plismyn cyntaf weithiau'n cael eu galw'n Peelers ar ei ôl e.

Arweinwyr y Blaid Geidwadol
Yn y Tŷ'r Arglwyddi (cyn i 1922)

Arthur WellesleyEdward Smith-StanleyJames HarrisHugh CairnsCharles Gordon-LennoxBenjamin DisraeliRobert Gascoyne-CecilSpencer CavendishHenry Petty-FitzMauriceGeorge Curzon

Yn y Tŷ'r Cyffredin (cyn i 1922)

Robert PeelArglwydd George BentinckCharles MannersBenjamin Disraeli (gyda Charles Manners a John Charles Herries) • Benjamin DisraeliStafford NorthcoteMichael Hicks BeachArglwydd Randolph ChurchillWilliam Henry SmithArthur BalfourAndrew Bonar LawAusten Chamberlain

Arweinwyr (ers 1922)

Andrew Bonar LawStanley BaldwinNeville ChamberlainWinston ChurchillAnthony EdenHarold MacmillanAlec Douglas-HomeEdward HeathMargaret ThatcherJohn MajorWilliam HagueIain Duncan SmithMichael HowardDavid Cameron

Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net