|
Ffordd o anfon signalau heb fod trwy weiar, trwy modyliad tonnau electromagnetig ar amleddau is nag amleddau golau yw radio. Gelwir y peiriant sydd yn derbyn y signalau a'u troi yn sain, sef y derbynnydd radio, hefyd yn aml yn 'radio'.
HanesDechreuodd hanes y radio mewn nifer o lefydd. Dangosodd Nikola Tesla y radio cyntaf i'r cyhoedd yn St. Louis, Missouri yn UDA ym 1893. Y flwyddyn wedyn, bu Syr Oliver Lodge, ffisegydd o Brydain yn defnyddio peiriant o'r enw coherer i gario signalau ar donnau radio. Bu Edouard Branly o Ffrainc ac Alexander Popov o Rwsia yn diwygio'r peiriant hon. Cofrestrodd Guglielmo Marconi breinlen cyntaf y byd ar gyfer radio ym 1896 (British Patent 12039) ac ym 1909 cafodd Marconi a Karl Ferdinand Braun Gwobr Nobel Ffiseg am gyfrannu i ddatblygiad technoleg radio. Ym 1898, adeiladwyd y ffatri radio cyntaf gan Marconi, hefyd. Safai'r ffatri yn Hall Street, Chelmsford, Lloegr ac roedd tua 50 o bobl yn gweithio ynddi. Trawsyrrwyd y rhaglen radio cyntaf ar Noswyl Nadolig 1906 o Brant Rock, Massachusetts i longau ar y môr. Darlledwyd y rhaglen newyddion cyntaf ar 31 Awst, 1920 o Detroit, Michigan ac ym 1922 dechreuwyd darlledu rhagleni adloniant yn rheolaidd am y tro cyntaf o'r Marconi Research Centre (Canolfan Ymchwil Marconi) a oedd yn y ffatri radio yn Writtle ger Chelmsford. Mae datblygiadau technolegol yr ugeinfed ganrif ym maes radio yn cynnwys transistorau, lloerenni i drosglwyddo signalau a radio rhyngrwyd. Radio yn yr Iaith Gymraeg
Prif erthygl: Radio Cymraeg
Gweler HefydDolenni allanol |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net