Pryniant Louisiana

Article on other languages:

Pryniant Louisiana (Y Louisiana Purchase) yw'r tir a brynwyd gan lywodraeth Unol Daleithiau America oddi wrth Ffrainc am 27,267,622 o ddoleri ar 30 Ebrill, 1803. Roedd y tir yn cynnwys ardal eang yn gorwedd rhwng Afon Mississippi a mynyddoedd y Rockies. Dwblodd y Pryniant faint yr Unol Daleithiau gan sicrhau ei dominyddiaeth yng Ngogledd America o hynny ymlaen.

Louisiana (yn wahanol i'r dalaith o'r un enw) oedd yr enw roddodd y Ffrancod ar ardal anferth a ddaeth i'w meddiant yn 1682. Roedd yn cynnwys y cyfan o'r hyn sy'n ganolbarth yr Unol Daleithiau heddiw, o'r Llynnoedd Mawr yn y gogledd i Gwlff Mexico yn y de-orllewin ac o'r trefedigaethau Prydeinig ar yr arfordir dwyreiniol i'r Rockies (ac eithrio Texas). Yn 1763 fe'i ildiwyd i Sbaen a Phrydain Fawr, ond yn 1800 rhoddwyd y rhan orllewinol yn ôl i Ffrainc gan y Sbaenwyr. Dyma'r diriogaeth a werthwyd i'r Unol Daleithiau yn 1803.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net