|
|
Gwlad yn Oceania yw Papua Guinea Newydd (neu Papwa Gini Newydd). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y Cefnfor Tawel ym Melanesia. Mae'n cynnwys hanner dwyreiniol ynys Guinea Newydd ynghyd â llawer o ynysoedd llai megis Prydain Newydd, Iwerddon Newydd a Bougainville. Mae'r wlad yn ffinio â Papua (talaith yn Indonesia) i'r gorllewin ac mae Awstralia'n gorwedd i'r de ar draws Culfor Torres.
Saesneg, Tok Pisin a Hiri Motu yw'r ieithoedd swyddogol ond siaredir mwy nag 850 o ieithoedd yn y wlad.
|