|
Mae Oceania (/ˌəʊʃiˈeɪniə/) – weithiau Ynysoedd y Determinoleg – yn rhanbarth daearyddol, ac yn aml daearwleidyddol, sydd yn cynnwys nifer o diroedd – ynysoedd gan mwyaf ond fel arfer yn cynnwys Awstralia – yn y Cefnfor Tawel a chyffiniau. Mae hefyd yn cael ei hystyried yn gyfandir, ond mae hyn yn bwnc dadleuol. Mae diffiniad ystent union Oceania yn amrywio, gyda dehongliadau yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, ac ynysoedd gwahanol yn Ynysfor Malei. Oceania yw'r cyfandir lleiaf yn nhermau arwynebedd a'r lleiaf ond un yn nhermau poblogaeth, yn dilyn yr Antarctig.
TrosolwgMae defnydd pennaf y term Oceania yn disgrifio rhanbarth macroddaearyddol sydd rhwng Asia a'r Amerig, gyda chyfandir Awstralia fel y brif ehangdir ac yn cynnwys rhyw 25 000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir yr enw "Oceania" yn hytrach nag Awstralia oherwydd, yn annhebyg i ddosbarthiadau cyfandirol eraill, y cefnfor a'r moroedd cyfagos yn hytrach na'r cyfandir sydd yn cysylltu'r tiroedd at ei gilydd. GeirdarddiadDaw Oceania o'r gair Groegaidd Okeanis (Ωκεανίς), merch nymff y duw Okeanos (Ωκεανός), y Titan cyntaf-anedig. Daeth y term i'r Gymraeg trwy'r Saesneg: daw'r gair Saesneg am "gefnfor" – ocean – o "Okeanos". Terminoleg
Prif erthygl: Oceania (terminoleg)
Mae Oceania yn aml yn cael ei chymysgu â thermau arall am ranbarthau yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir y term Awstralasia i gyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, a nifer o'r ynysoedd llai sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Indonesia. Mae'r term yn cynnwys prif ynysoedd Oceania, ond nid yw'n cynnwys yr ynysoedd a chylchynysoedd bychain yn y Cefnfor Tawel. Mae "Awstralasia" yn aml yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i ddisgrifio Oceania, gan nad yw "Oceania" yn ymddangos fel gair Cymraeg. Mae "Ynysoedd y De" i'w gweld ar draws y we fel term Cymraeg am Oceania, ond gan nad yw hyn wedi'i sefydlu fel gair safonol, defnyddir "Oceania" trwy'r erthygl hon. Rhanbarthau, gwledydd a thiriogaethauBathwyd y gair Oceania gan y fforiwr Ffrengig Dumont d'Urville yn 1831. Mae'n arfer cyffredinol i rannu Oceania yn Micronesia, Melanesia, Polynesia, ac Awstralasia. Ond fel unrhyw rhanbarth, mae dehongliadau yn amrywio; fwyfwy, rhannwyd Oceania gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr i Oceania Agos ac Oceania Bell. Mae'r rhan fwyaf o Oceania yn cynnwys gwledydd ynysoedd bychain. Awstralia yw'r unig wlad gyfandirol; yn ôl rhai diffiniadau, mae gan Indonesia gororau tir â Phapwa Gini Newydd, Dwyrain Timor, a Maleisia.
Nodiadau:
Manylion a dadleuon deongliadol
EcoddaearyddiaethUn o wyth ecoranbarth daearol yw Oceania, sef rhanbarthau ecolegol pennaf y blaned. Mae ecoranbarth Oceania yn cynnwys Micronesia i gyd, Ffiji, a Pholynesia i gyd ar wahân i Seland Newydd. Mae Seland Newydd, gyda Gini Newydd ac ynysoedd cyfagos, Awstralia, Ynysoedd Selyf, Fanwatw, a Chaledonia Newydd, yn gwneud ecoranbarth Awstralasia. EconomiMae'r mwyafrif eang o bobl yn y Cefnfor Tawel (nid yn cynnwys Awstralia a Seland Newydd) yn gweithio yn y diwydiant cynradd. Mae nifer o wledydd dal yn amaethyddol yn bennaf; er enghraifft, mae 80% o boblogaeth Fanwatw a 70% o boblogaeth Ffiji yn gweithio yn amaethyddiaeth. Prif gynnyrch y rhanbarth yw copra (neu gnau coco), a thyfir coedwydd, cig eidion, olew palmwydd, coco, siwgr a sinsir yn gyffredin ar draws drofannau'r Cefnfor Tawel. Caiff datgoedwigo coetir hynafol ei ecsbloetio ar ynysoedd mwy, yn cynnwys Ynysoedd Selyf a Phapwa Gini Newydd. Mae pysgota yn brif ddiwydiant mewn nifer o ynysoedd a chylchynysoedd llai y Cefnfor Tawel, er caiff nifer o ardaloedd pysgota eu hecsbloitio gan wledydd mwy, yn enwedig Siapan. Mwyngloddir adnoddau naturiol, megis plwm, sinc, nicel ac aur, yn Ynysoedd Selyf ac Awstralia, yng ngorllewin y rhanbarth. Yn ddiweddar mae twristiaeth wedi bod yn ffynhonnell fawr o incwm am nifer o ynysoedd y Cefnfor Tawel (ar wahân i Awstralia a Seland Newydd, er fod ganddyn nhw busnes twristiaeth buddiol iawn); mae twristiaid yn dod o Awstralia, Seland Newydd, Siapan, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae Ffiji yn denu bron i hanner miliwn o dwristiaid y flwyddyn; mwy na chwarter ohonynt o Awstralia. Mae hyn yn cyfrannu $300 miliwn i economi Ffiji. Yn ogystal â hyn, mae nifer o leoedd yn y Cefnfor Tawel dal yn dibynnu ar gymorth tramor ar gyfer datblygiad. Yn Ynysoedd Selyf talwyd 50% o wariadau'r llywodraeth gan roddwyr rhyngwladol; sef Awstralia, Seland Newydd, yr Undeb Ewropeaidd, Siapan a Gweriniaeth Tsieina (Taiwan). ChwaraeonUn o chwe chydffederasiwn pêl-droed o dan nawddogaeth FIFA yw Cydffederasiwn Pêl-droed Oceania (OFC). Yr OFC yw'r unig gydffedrasiwn heb hawl awtomatig i Rownd Derfynol Cwpan y Byd. Ar hyn o bryd, mae angen i enillwr yr OFC chwarae "play-off" yn erbyn ochr o Gydffederasiwn Pêl-droed De America. Mae Oceania wedi cael ei chynrychioli mewn tair Rownd Derfynol yng Nghwpan y Byd – Awstralia yn 1974, Seland Newydd yn 1982 ac Awstralia yn 2006. Ond nid yw Awstralia yn aelod o'r OFC bellach, gan ymunodd â Chydffederasiwn Pêl-droed Asia yn 2006. Gweler hefydCysylltiadau allanolChwaraeonMae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Gwledydd a thiriogaethau Oceania
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net