Llinell Wallace

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Llinell Wallace.
Llinell Wallace.

Mae Llinell Wallace yn linell sy'n gwahanu dau ranbarth bioddaearyddol, Asia ac Awstralasia. I'r gorllewin o'r llinell ceir rhywogaethau o fywyd gwyllt sy'n perthyn i ranbarth Asia, tra i'r dwyrain ceir rhywogaethau sy'n perthyn i fywyd gwyllt Awstralasia. Enwir y llinell ar ôl Alfred Russel Wallace, a nododd y gwahaniaeth yn ystod ei deithiau trwy ynysoedd de-ddwyrain Asia yn y 19eg ganrif.

Mae'r llinell yn rhedeg rhwng ynysoedd Indonesia, yn gyntaf rhwng Borneo yn y gorllewin a Sulawesi yn y dwyrain, yna rhwng Bali yn y gorllewin a Lombok yn y dwyrain. Nid yw Culfor Lombok, sy'n gwahanu Bali a Lombok, ond 35 km o led, ond mae'n ddigon i weld cryn wahaniaeth yn y bywyd gwyllt, hyd yn oed mewn adar, nad yw rhai rhywogaethau ohonynt yn barod i groesi'r môr, hyd yn oed gulfor.

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net