|
Mae Japan (Japaneg: 日本
DinasoeddPrifddinas Siapan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt gwleidyddol ac economaid y wlad. Dinasoedd pwysig eraill yw Yokohama, Kawasaki a Chiba, ger Tokyo yn yr ardal a elwir yn Kantō (関東 "Giât y Dwyrain"). Yng gorllewin y wlad mae'r ardal Kansai (関西 Giât y Gorllewin), sy'n lleoliad i nifer o ddinasoedd pwysig eraill, megis Ōsaka, Kōbe a Kyōto. Rhai dinasoedd pwysig eraill yw Nagoya (rhwng Kyoto a Tokyo) a Fukuoka yng ngogledd Kyushu. Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth Japan
Mae miloedd o ynysoedd yn Japan, ond yr ynysoedd mwyaf yw Hokkaidō yn y gogledd, Honshū yn y canol, Shikoku yn y de a Kyūshū yn y gorllewin. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael lle y gellir lleoli dinasoedd — y rheswm am y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san) (3776m). Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân, y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel, ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn Japan. Gwleidyddiaeth
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Japan
Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system tebyg iawn i'r hyn sydd ym Mhrydain. Economi
Prif erthygl: Economi Japan
Yn Japan, mae diwydiant a'r gwasnaethau yn bwysig iawn, llawer mwy na'r amaethyddiaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio olew, haearn ac ati. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft ceir neu cynhyrchion trydanol a cemigol. Poblogaeth
Prif erthygl: Poblogaeth Japan
Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg. Yng ngogledd y wlad y mae grwp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net