|
Wedi'i sefydlu yn 1948 yn wladwriaeth Iddewig, gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl). Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Mae'n ffinio â Libanus i'r gogledd, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol, ar lan Afon Iorddonen, a Llain Gaza ar arfordir y Môr Canoldir o dan reolaeth Israel. Mae Israel hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad sydd bellach yn Israel o'r 1920au ymlaen, a oedd ar pryd o dan lywodraeth Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgîl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net