|
Mae hanes Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru yn cychwyn gyda sefydlu cymunedau Iddewig yn ne Cymru yn y 18fed ganrif. Yn 1290 cyhoeddodd Edward I o Loegr ddatganiad 1290 yn gorfodi'r Iddewon i adael Lloegr, a dienyddwyd dros 300 o Iddewon Seisnig. Ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod Iddewon yn byw yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol ar wahân i gyfeiriad ystrydebol gan Gerallt Gymro, ar ddiwedd y 12fed ganrif, yn ei lyfr enwog Hanes y Daith Trwy Gymru.[1] Yn Lloegr, rhwng alltudio 1290 a'u dychweliad swyddogol yn 1655, ni cheir cofnod o Iddewon yn byw yno ac mae'r un peth yn wir am Gymru. Dim ond yn y 19eg ganrif y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru, er bod cofnodion hefyd am gymunedau bychain ac unigolion o'r 18fed ganrif. Erbyn heddiw ceir cymunedau neu synagogau mewn 27 o drefi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn y de-ddwyrain.
Cymunedau cynnarYn Lloegr, rhwng 1290 a'u dychweliad swyddogol yn 1655, nid oes cofnod o Iddewon, ond ceir digon o dystiolaeth o ganol y 17eg ganrif ymlaen. Yng Nghymru, ceir y dystiolaeth gynharaf am Iddewiaeth mewn cofnod am gymuned Iddewig fechan yn Abertawe tua 1730. Yn y ganrif olynol ffurfiwyd cymunedau Iddewig mewn rhannau eraill o dde Cymru, e.e. Caerdydd, Merthyr Tudful, Pontypridd a Tredegar."[2] Cyfnod diweddar
Hen synagog Caerdydd
Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19eg ganrif, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.[3] Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal Tredegara threfi eraill yn y cylch, dangosodd gwrth-Semitiaeth ei ben ym mis Awst 1911, pan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr, rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod."[4] HeddiwErbyn heddiw ceir cymunedau neu gynulleidfaoedd Iddewig yn Aberdâr, Abertawe, Abertileri, Bae Colwyn, Bangor, Bargoed, Y Barri, Brynmawr, Caerdydd, Castell-nedd, Glynebwy, Llandudno, Llanelli, Merthyr Tudful, Penrhiwcaibr, Pen-y-bont ar Ogwr, Pontypwl, Pontypridd, Porthcawl, Port Talbot, Rhydaman, Y Rhyl, Tonypandy, Tredegar, Y Trallwng, Wrecsam, ac Ystalyfera.[5] Gwelir mai dim ond un gymuned sydd i'w cael rhwng arfordir y gogledd a de-ddwyrain Cymru. Iddewon CymreigPobl o Gymru sy'n Iddewon neu o dras Iddewig:
Cyfeiriadau
Darllen pellach
Dolenni allanol
Gweler hefyd |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net