Gwyddeleg

Article on other languages:

Gwyddeleg (Gaeilge)
Siaredir yn: Iwerddon
Parth: Gaeltacht
Siaradwyr iaith gyntaf: 350,000
Safle yn ôl nifer siaradwyr: Dim yn y 100 uchaf
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeg

 Celteg
  Ynysol
   Goideleg
    Gwyddeleg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Gweriniaeth Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd
Rheolir gan: Foras na Gaeilge
Codau iaith
ISO 639-1 ga
ISO 639-2 gle
ISO 639-3 gle
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).

Taflen Cynnwys

Hanes

Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goideleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goideleg eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol y Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.

Sefyllfa heddiw

Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.

Rhai geiriau Gwyddeleg

  • - buwch
  • Fear / Duine - gŵr / dyn
  • Gealach - lleuad (lloer)
  • Grian - haul
  • Sliabh - mynydd
  • Trá - traeth
  • Maith - da
  • Glan - glân
  • Beag - bach
  • Mór - mawr
  • Leabhar - llyfr
  • Gorm - glas
  • Glas - gwyrdd
  • Dubh - du
  • Tine - tân
  • Am - amser
  • Aimsir - tywydd

Rhai Ymadroddion

  • Dia Dhuit - sut mae?
  • Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut dych chi?
  • An-mhaith - da iawn
  • Go raibh maith agat - diolch
  • Mise freisin - finnau hefyd
  • B'fhéidir - efallai
  • Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
  • Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
  • Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
  • Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
  • Is mise Seán - Seán dw i
  • Le do thoil - os gwelwch yn dda
  • Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
  • Níl mé cinnte - Dw i ddim yn siŵr
  • Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
  • An dtuigeann tú Gaeilge?" - Ti'n deall Gwyddeleg?
  • Tuigim beagán Gaeilge." - Dw i'n deall tipyn bach o Wyddeleg
  • Is breá liom.. - Dw i'n hoffi...
  • Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
  • Tá brón orm - Mae'n ddrwg gen i
  • Slán - Hwyl

Cymariaethau â Chymraeg

Y Rhifau

Cymraeg un dau tri pedwar pump chwech saith wyth naw deg
Gwyddeleg aon trí ceathair cúig seacht ocht naoi deich

Rhagenwau

Cymraeg fi/i ti fe/e hi ni chi nhw
Gwyddeleg sé / é sí / í muid sibh iad

Meddiant

Cymraeg fy nhŷ dy dŷ ei dŷ ei thŷ ein tŷ eich tŷ eu tŷ
Gwyddeleg mo theach do theach a theach a teach ár dteach bhur dteach a dteach


"Gw" - "F"/"B"

Cymraeg dyn (gŵr) gwyn gweld gwell gwin gwlyb gwir gwan gwyddbwyll gwylan
Gwyddeleg fear bán feiceáil fearr fíon fliuch fíor fann ficheall faoileán

"P"/"B" - "C"

Cymraeg beth pwy pen pedwar pump plant mab Pasg pawb coeden ("pren")
Gwyddeleg cad ceann ceathair cúig clann mac an Cháisc cách crann


Geiriau Eraill

Cymraeg llachar golau haul halan haf hen hynny hi chi heddiw
Gwyddeleg geal solas grian salann samhradh sean sin sibh inniú

Gweler hefyd

Wikipedia
Argraffiad Gwyddeleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Cysylltiadau allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Ieithoedd Celtaidd
Celteg
Brythoneg
(P-Celteg)
Goideleg
(Q-Celteg)
Llydaweg · Cernyweg · Cymraeg | Gwyddeleg · Manaweg · Gaeleg yr Alban
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net