|
Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Gwlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng Grønland a Phrydain Fawr.
Hanes
Prif erthygl: Hanes Gwlad yr Iâ
Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9fed ganrif a'r 10fed. Nhw sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930. Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth. Gwleidyddion
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Gwlad yr Iâ
Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog. Etholaethau
Prif erthygl: Etholaethau Gwlad yr Iâ
Cymunedau
Prif erthygl: Cymunedau Gwlad yr Iâ
Siroedd
Prif erthygl: Siroedd Gwlad yr Iâ
Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 o siroedd, neu sýslur:
Heblaw'r siroedd, mae yna 14 o drefi annibynol, neu kaupstaðir:
Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth Gwlad yr Iâ
Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Crib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu -- crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ar draws y byd. Mae gan y wlad llawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi. Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavik -- lleoliad y maes awyr cenedlaethol -- ac Akureyri. Economi
Prif erthygl: Economi Gwlad yr Iâ
Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon. Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu adeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn fwy pwysig. Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth Gwlad yr Iâ
Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnlifo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau. DiwylliantIaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther. Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r raglan deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955. Cysylltiadau allanol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net