|
Gwlad gommiwnyddol a rhan o Gytundeb Warsaw oedd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Almaeneg: Deutsche Demokratische Republik neu DDR) hefyd Dwyrain yr Almaen. Y brifddinas oedd Dwyrain Berlin. Sefydlwyd y wlad ym 1949 wedi'r Ail Ryfel Byd. Ers 3 Hydref, 1990, nid yw'r DDR yn bodoli, gan iddi uno â Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Arweinydd y Wlad o 1971 i 1989 oedd Erich Honecker.
|