Tafodiaith Gymraeg Gwent a Morgannwg yw y Wenhwyseg. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, y Gwennwys. Un o nodweddion y Wenhwyseg yw'r newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain äë e.e. "y 'Ted' a'r Meb' a'r Ysbryd 'Glên'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymrég', 'traed' - 'tréd', 'cae' - 'cé'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg ac nid yr un sain yw hi ac a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' etc. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn. Mae'r Wenhwyseg wedi cael effaith ar y Saesneg sy'n cael ei siarad yn yr ardal hefyd, gyda siaradwyr Saesneg yn defnyddio geiriau a chystrawen Cymraeg (gweler Wenglish), e.e. What is on her? (Beth sydd arni?); You can count on 'er wen there's taro.[1] CyfeiriadauCysylltiadau allanol |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net