|
Un o départements Ffrainc yw Guyane, yn aml Guyane Ffrengig, ond "Guyane" yw'r enw swyddogol. Mae'n un o'r départements tramor (Ffrangeg: départements d'outre mer), a ffurfiwyd o ymerodraeth Ffrainc. Yn ogystal mae'n un o ranbarthau tramor Ffrainc. Saif ar arfordir gogleddol De America, yn ffinio ar Suriname yn y gorllewin ac ar Brasil yn y dwyrain. Prifddinas y département yw Cayenne.
Fel y gweddill o'r départements tramor, mae'n mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolaidd ac yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae hefyd yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
Gorchuddir 96% o Guyane gan fforest law drofannol, a warchodir gan barc cenedlaethol newydd a chwech gwarchodfa natur.
Dolennau allanol
|