Gwlad ar arfordir gogleddol De America yw Guyana, yn swyddogol Gweriniaeth Gydweithredol Guyana. Mae'n ffinio â Venezuela i'r gorllewin, â Brasil i'r de ac â Suriname i'r dwyrain. Mae Cefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r gogledd. Georgetown ar aber Afon Demerara yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.