Gogledd America

Article on other languages:

Map o'r byd yn dangos Gogledd America
Delwedd cyfansawdd lloeren o Gogledd America

Mae Gogledd America yn gyfandir yn hemisffer gogleddol a hemisffer gorllewinol y Ddaear, wedi'i ffinio i'r gogledd gan y Cefnfor Arctig, ar y ddwyrain gan gogledd y Cefnfor Iwerydd, ar y dde-dwyrain gan Môr y Caribi, ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd y Cefnfor Tawel. Mae gan Ogledd America arwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2002, credir bod y boblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia ac Affrica) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica ac Ewrop).

Hanes

Prif erthygl: Hanes Gogledd America

Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd Gogledd America yn sicr (Newfoundland) oedd y Llychlynwyr, wnaeth galw'r ardal yn Vinland. Cyrrhaeddon nhw yna tua 1000. Er sefydlon nhw rhai gwladfeydd yna, ni gadawon nhw ryw lawer o farc ar y gyfandir.

Ar ôl fordaith Christopher Columbus yn 1492, y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ac aros. Ennillon nhw reolaeth o rhan fwyaf o ynysoedd mwyaf y Caribi a gorchfygon nhw'r Aztecs, ac felly cymryd dros Mecsico a Chanolbarth America.

Y gwladfeydd Seisnig cyntaf oedd Jamestown a Plymouth Rock, yn nhaleithiau Virginia a Massachusetts heddiw. Y gwladfeydd llwyddiannus Ffrengig cyntaf oedd Port Royal (1604) a dinas Québec (1608), yn nhaleithiau Nova Scotia a Québec heddiw.

Economi

Economi Gogledd America
Poblogaeth: 495.4 miliwn
CMC (PPP): US$12.409 triliwn
CMC (Pres): $11.865 triliwn
CMC/pen (PPP): $25,263
CMC/pen (Pres): $24,155
Cynydd blynyddol yn
CMC y pen:
1.84% (1990-2002)
Incwm y 10% top: 32.9%
Miliwnyddion: 2.7 miliwn (0.5%)
Amcangyfrif incwm benywaidd 55.7% o'r incwm gwrywaidd

Rhannwyd economi Gogledd America rhwng Canada a'r UDA, dau o wledydd mwyaf cyfoethog a ddatblygol y byd, a chenhedloedd Canolbarth America a'r Caribi, sydd, er nad yn dioddef o economïau gwael, yn wledydd llai economaidd ddatblygol.

Mae Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a'r wledydd Canolbarth America Costa Rica, Guatemala, El Salvador, Honduras a Nicaragua. Amcan y gytundeb yw i hybu masnach rydd rhwng yr aelodau. Mae Canada a Mecsico yn trafod aelodaeth. Mae Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America (NAFTA) yn cytundeb rhwng Canada, Mecsico a'r Unol Daleithiau i ddileu tollau ar nwyddau masnachir rhwng ei gilydd.

Gwledydd Gogledd America

Gwledydd o Ogledd America
Cyfandiroedd y Ddaear


Affrica-Ewrasia

Yr Amerig

Ewrasia


Affrica

Antarctica

Asia

Ewrop

Gogledd America

De America

Oceania

Uwchgyfandiroedd daearegol :  Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur  · Vaalbara

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net