George Armstrong Custer

Article on other languages:

George A. Custer

Cadfridog ym myddin yr Unol Daleithiau oedd George Armstrong Custer (5 Rhagfyr, 1839 - 25 Mehefin, 1876).

Ganed ef yn New Rumley, Ohio, yn fab i Emanuel Henry Custer (1806-1892) a Marie Ward Kirkpatrick (1807-1882). Aeth i Academi Filwrol West Point, lle graddiodd yn olaf o ddosbarth o 34 cadet yn 1861, yn fuan ar ôl i Ryfel Cartref America ddechrau. Ymladdodd mewn nifer o frwydrau gan wneud enw iddo'i hun fel arweinydd a hoffai ymosod. Dri diwrnod cyn Brwydr Gettysburg yn 1863, apwyntiodd y Cadfrodog Pleasonton ef yn frigadydd dros dro. Nid oedd ond 23 oed; un o'r cadfridogon ieuengaf yn y fyddin. Bu ganddo ef a'i ŵyr ran bwysig ym muddugoliaeth Gettysburg.

Wedi diwedd y Rhyfel Cartref bu'n ymladd yn erbyn pobloedd frodorol y Gwastadeddau Mawr. Cafodd ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Little Big Horn gan fyddin o ryfelwyr Sioux, Cheyenne ac Arapaho, dan arweiniad Thasuka Witco ("Crazy Horse"), Gall a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull"), er nad oedd yr olaf yn bresennol ar faes y frwydyr.


Llyfryddiaeth

  • Ambrose, Stephen E. (1996 [1975]). Crazy Horse and Custer: The Parallel Lives of Two American Warriors (Efrog Newydd: Anchor Books)

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net