Ffrangeg

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Ffrangeg (Français)
Siaredir yn: Ffrainc a 53 o wledydd eraill.
Parth: Affrica, Ewrop, America, Y Cefnfor Tawel
Siaradwyr iaith gyntaf: 77 miliwn (128 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith)
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 11
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeg

 Italeg
  Romáwns
   Italeg Gorllewinol
    Gorllewinol
     Iberieg Gâl
      Romáwns Gâl
       Rhaetieg Gâl
        Oïl
         Ffrangeg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Ffrainc a 24 o wledydd eraill.
Rheolir gan: Académie française
Codau iaith
ISO 639-1 fr
ISO 639-2 fre (B) /fra (T)
ISO 639-3 fra
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Ffrangeg (Ffrangeg: Français) yw iaith frodorol Ffrainc. Siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd eraill yn y byd. Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg yng Ngogledd a Gorllewin Affrica a'r Caribî. Yn Ewrop, siaredir yn Lwcsembwrg a rhannau o Wlad Belg ac o'r Swistir, yn ogystal â Ffrainc. Yn ogystal mae Ffrangeg yn iaith swyddogol yn Quebec, Canada.

Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.

Taflen Cynnwys

Ymadroddion Cyffredin

  • français : Ffrangeg
  • gallois : Cymraeg
  • anglais : Saesneg
  • salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
  • ça va? : sut mae?
  • bonjour! : bore/p'nawn da!
  • bonsoir! / bonne soirée! : noswaith dda!
  • au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
  • bonne nuit! : nos da!
  • excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
  • pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
  • s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
  • merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch â dweud merci ! nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch je veux bien ! yn hytrach na merci ! neu gewch chi 'mohono fe.)
  • merci bien : diolch
  • merci beaucoup : diolch yn fawr
  • de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
  • (je suis) desolé(e) : mae'n flin gen i
  • oui : ie / do / oes etc.
  • si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno â rhywun.
  • non : nage / naddo / nag oes etc.
  • Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
  • À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Ffrangeg yn y byd Allwedd: Glas tywyll: mamiaith; Glas: iaith gweinyddol; Glas golau: iaith diwylliant; Gwyrdd: lleiafrif Ffrangeg.
Ffrangeg yn y byd
Allwedd:
Glas tywyll: mamiaith;
Glas: iaith gweinyddol;
Glas golau: iaith diwylliant;
Gwyrdd: lleiafrif Ffrangeg.

Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml

  • bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
  • Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
  • Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
  • oh là là! : o diar!

Geiriau Diddorol

  • baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
  • chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal

Cysylltiadau

Wikipedia
Argraffiad Ffrangeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net