Ffederasiwn Rwsia

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Российская Федерация
Rossiyskaya Federatsiya

Ffederasiwn Rwsia
Baner Rwsia Arfbais Rwsia
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Gosudarstvenny Gimn Rossiyskoy Federatsii
Lleoliad Rwsia
Prifddinas Moscfa
Dinas fwyaf Moscfa
Iaith / Ieithoedd swyddogol Rwsieg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Dmitry Medvedev
Vladimir Putin
Annibyniaeth

 • Datganwyd
 • Cydnabuwyd
Oddiwrth yr Undeb Sofietaidd
12 Mehefin 1990
26 Rhagfyr 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
17,075,400 km² (1af)
13
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
145,164,000 (7fed)
143,202,000
8.4/km² (210fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1.576 triliwn (10fed)
$11,041 (62fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.745 (62fed) – 
Arian cyfred Rŵbl Rwsiaidd (RUB)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+2 i +12)
(UTC+3 i +13)
Côd ISO y wlad .ru
Côd ffôn +7

Gwlad drawsgyfandirol sy'n ymestyn dros ran fawr o ogledd Ewrasia (Ewrop ac Asia) yw Ffederasiwn Rwsia (Rwsieg: Росси́йская Федера́ция, Rossiyskaya Federatsiya) neu Rwsia (Росси́я, Rossiya). Gydag arwynebedd o 17,075,400 km², y wlad fwyaf o lawer yn y byd yw Rwsia, gan orchuddio bron ddwywaith arwynebedd y wlad ail fwyaf, sef Canada. Mae gan Rwsia adnoddau enfawr mwynau ac ynni, yn ogystal â'r boblogaeth nawfed fwyaf yn y byd. Mae Rwsia yn rhannu ffiniau tir â'r gwledydd canlynol (yn wrthglocwedd, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain): Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Belarws, Wcráin, Georgia, Aserbaijan, Casachstan, Tsieina, Mongolia a Gogledd Corea. Mae hi hefyd yn agos i'r Unol Daleithiau (talaith Alaska), Sweden a Siapan dros gulforoedd eithaf cul (Culfor Bering, y Môr Baltig, a Chulfor La Pérouse, yn ôl eu trefn).

Gynt yn Weriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia (GSFfSR), gweriniaeth o'r Undeb Gweriniaethau Sofietaidd Sosialaidd (UGSS), daeth Rwsia yn Ffederasiwn Rwsia yn sgil diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991. Ar ôl y cyfnod Sofietaidd, trosglwyddwyd arwynebedd, poblogaeth a chynhyrchiad diwydiannol a oedd wedi'u lleoli yn Rwsia i Ffederasiwn Rwsia.

Ar ôl ymddatodiad yr Undeb Sofietaidd, daeth Ffederasiwn Rwsia newydd annibynnol yn bŵer mawr, ac ystyrir hefyd bod y wlad yn archbŵer ynni. Ystyrir bod Rwsia yn wladwriaeth olynydd i'r Undeb Sofietaidd mewn materion diplomyddol. Aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw hi. Mae hefyd yn un o'r pum gwladwriaeth sydd ag arfau niwclear wedi'u cydnabod, ac mae'n meddu ar y stoc fwyaf o arfau eangddinistr yn y byd. Cenedl arweiniol o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol yw Rwsia, ac mae'n aelod o'r G8 yn ogystal â chyrff rhyngwladol eraill.

Gweler hefyd



Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net