|
Un o'r saith cyfandir yw Ewrop, sydd, yn yr achos hwn, yn fwy o gyfandir yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd ceir y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir yr Wrals gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a tectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop. Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, sy'n cynnwys tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r cyfandir trydydd mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) efo poblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o boblogaeth y byd.
GeirdarddiadYm mytholeg Roeg, roedd Europa yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zeus mewn ffurf tarw a'i gymryd ganddo i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. I'r bardd Homer, roedd Europé (Groeg: Ευρωπη) yn frenhines fytholegol o Creta, yn hytrach na dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir. Hanes
Ewrop ym 814
Rhannodd ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rhufeinig y cyfandir ar hyd afonydd Rhein a Donaw am sawl canrif. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, syrthiodd rhan helaeth o Ewrop i'r Oesoedd Tywyll. Ond parhaodd gwareiddiad y Rhufeinwyr i flodeuo, ond ar ffurfiau newydd, mewn rhannau o dde Ewrop ac yn y de-dwyrain dan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yn raddol, troes yr Oesoedd Tywyll yn gyfnod goleuach a adnabyddir fel yr Oesoedd Canol. Blodeuodd dysg eto ond ar ffurf geidwadol a dueddai i edrych yn ôl i'r Byd Clasurol a'r Beibl. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cwncwerodd Ymerodraeth yr Otomaniaid ddinas Caergystennin (Istanbwl) - gan dod â diwedd yr Ymerodraeth Fysantaidd - a daeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Un canlyniad o hynny oedd y Dadeni, cyfnod o ddarganfyddiad, fforio a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei dilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a Phrydain Fawr yn y ras i greu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Amerig, Asia ac Awstralasia. Ar ôl yr oes o ddarganfyddiadau, dechreuodd cysyniadau democratiaeth gymryd drosodd yn Ewrop. Cafwyd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y cynydd hwn mewn democratiaeth i gynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth â'r Byd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd hwnnw pan daeth Napoleon Bonaparte i rym a dechrau ar gyfres o oresgyniadau a ffurfiodd yr Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y concwestau yma, ymsadrodd Ewrop, ond mi oedd yr hen sefydliadau eisoes yn ddechrau cwympo. Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain Fawr yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symud i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant economaidd a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Rhyfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop yn ddau brif bloc gwleidyddol ac economaidd: y gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (ac eithrio Twrci a Gwlad Groeg) a gwledydd cyfalafol Gorllewin a De Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y Bloc Dwyreiniol. Daearyddiaeth Ewrop
Prif erthygl: Daearyddiaeth Ewrop
Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy a elwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau ym Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio'r ffin rhwng dwyrain Ewrop ac Asia. Nid yw'r ffin dde-ddwyreiniol ag Asia yn cael ei diffinio'n gyffredinol; gan amlaf mae Afon Wral neu, fel arall, Afon Emba, yn cael ei disgrifio fel ffin y cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â Môr Caspia, ac yna Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Du; mae'r Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles yn diweddu'r ffin ag Asia. Mae Môr y Canoldir i'r de yn gwahanu Ewrop ac Affrica. Y Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio'r ffin orllewinol, ond mae Gwlad yr Iâ, sydd llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf i'r cyfandir yn Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei chynnwys yn Ewrop. Gwledydd EwropGwladwriaethau annibynnolYstyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop: 1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu ystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol. Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop
Gwelwch hefyd
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net