|
Gwlad yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Estonia neu Estonia (Estoneg: Eesti). Mae Estonia yn ffinio â Latfia i'r de a Rwsia i'r dwyrain. Gwahanir y wlad oddi wrth y Ffindir gan Gwlff y Ffindir i'r gogledd ac oddi wrth Sweden gan y Môr Baltig i'r gorllewin.
Mae Estonia yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ers 1 Mai 2004 ac o Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (SCGI) ers 29 Mawrth 2004.
Pobl Ffinnig sy’n perthyn yn agos i'r Ffiniaid yw'r Estoniaid, a'r iaith Estoneg yn rhannu llawer o debygrwydd â Ffinneg.
Credir bod enw modern Estonia yn tarddu o'r hanesydd Rhufeinig Tacitus, a ddisgrifiodd yn ei lyfr Germania bobl a alwyd yn Aestii. Yn gyffelyb, mae sagâu hynafol Sgandinafaidd yn cyfeirio at wlad o'r enw Eistland. Mewn ffynonellau Lladinaidd a ffynonellau cynnar eraill, galwyd y wlad yn Estia neu Hestia.
|