E-bost

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire

Ffordd o ysgrifennu ac anfon negeseuon yn electronaidd yw e-bost.

Mae e-bost wedi newid y ffordd mae pobl yn cyfarthrebu; dros gyfnod o ugain mlynedd mae'r nifer o bobl sy'n cyfathrebu trwy lythyron wedi lleihau ac mae mwy-a-mwy o bobl yn defnyddio e-bost i gyfarthrebu erbyn hyn.

Rhyngwyneb Thunderbird i drin a thrafod e-byst
Rhyngwyneb Thunderbird i drin a thrafod e-byst

Mae wedi'i seilio ar y Simple Mail Transfer Protocol sy'n galluogi'r cyfrifiaduron i gyfathrebu a'i gilydd dros rwydwaith neu system rhwydweithiol. Ceir system mewnol y 'mewnrwyd' neu'r intranet gan gwmniau, hefyd i yrru negeseuon e-bost o'r naill gyfrifiadur i'r llall, weithiau wedi'u creu / addasu gan y cwmni.

Y niwsans mwyaf ynghylch yr e-bost ydy ydy'r cam-ddefnydd a wneir gan rhai pobol drwy yrru e-byst nad oes mo'u gofyn na'u hangen. Sbam ydy'r gair am y rhain. Ar adegau fe ddefnyddir spam i dargedu cwmniau neu gyrff eraill er mwyn creu hafoc, neu er mwyn ceisio dymchwel eu system gyfrifiadurol. Gall spam hefyd gynnwys 'attachemnts' megis firws er mwyn creu mwy o niwsans. I rwystro hyn, ceir meddalwedd gwrth-firws a ffiltrau e-bost i atal neu roi'r spam mewn quarantine.


Ei darddiad

Fe grewyd yr e-bost ychydig cyn y rhyngrwyd ac yn offeryn hanfodol i greu'r rhyngrwyd. Dangosodd y MITei Compatible Time-Sharing System (CTSS) yn 1961.[1]

Roedd hyn yn galluogi nifer o ddefnyddwyr ar yr un pryd i fewngofnodi ar yr un pryd i system wedi'i osod ar gyfrifiaduron IBM7094[2] o gyfrifiaduron annibynol a chadw (safio) ffeiliau ar ddisg.

Dechreuodd yr e-bost yn 1965 fel dull i ddefnyddwyr ranu cyfrifiadur mainframe ond mae hi'n amhosibl roi dyddiad ar y defnydd cyntaf ohono. Enwau rhai o'r cmniau a greodd systemau cynharaf o e-byst oedd: y Q32 gan System Development Corporation a CTSS gan gwmni MIT.

Fformat

Diffinir fformat e-byst yn yr RFC 2822 ac mewn cyfres o RFCs, RFC 2045 hyd at RFC 2049; sef casgliad a elwir yn Multipurpose Internet Mail Extensions (MIME).

Ers 2005 mae'r safon RFC 2822 yn safon IETF a'r MIME RFC yn safonau drafft o'r enw IETF [3]. Y dogfenau hyn yw dogfenau safoni de facto e-bost y rhyngrwyd.

Mae gan pob e-bost ddwy ran:


  • Y Pen - gyda rhanau megis: summary, sender, receiver, a gwybodaeth arall ynghylch yr e-bost ei hun
  • Y Corff - sef y neges ar ffurf testun a all hefyd gynnwys llofnod ar ei ddiwedd.

Cyfeiriadau

  1. "CTSS, Compatible Time-Sharing System" (September 4, 2006), University of South Alabama, web: USA-CTSS.
  2. Tom Van Vleck, "The IBM 7094 and CTSS" (September 10, 2004), Multicians.org (Multics), web: Multicians-7094.
  3. Nodyn:Citeweb

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net