Dardanelles

Article on other languages:

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Dardanelles

Culfor sy'n gorwedd rhwng rhan Ewropeaidd Twrci a'r rhan Asiaidd (Asia Leiaf) yw'r Dardanelles (hen enw Groeg Hellespont; Tyrceg Çannakale Boğazi). Mae'n ffurfio sianel morwrol rhwng Môr Aegea a Môr Marmara sydd o bwys strategol mawr ers canrifoedd. Ei hyd yw tua 60km (37 milltir). Ar ei letaf mae 3½ milltir yn gwahanu'r ddwy lan, ond dim ond tua hanner milltir yn y man cyfyngaf.

Yr Hellespont (Hellespontos) oedd ei enw yn Hen Roeg, ar ôl y cymeriad chwedlonol Helle, ferch Athamas a Nephele. Roedd yn enwog yn yr Henfyd am ei gysylltiad â chwedl Hero a Leander ac am y bont o gychod a godwyd gan Xerxes er mwyn i'w fyddin ei groesi. Roedd y wlad ar y lan Asiaidd yn dwyn yr un enw.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf gwelwyd brwydro mawr rhwng y Cynghreiriaid a lluoedd Twrci yn y Dardanelles, yn arbennig ar orynys Gallipoli.

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net