Cytundeb Warsaw

Article on other languages:

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Aelodau Cytundeb Warsaw 1956-1968

Cynghrair milwrol oedd Cytundeb Warsaw. Fe'i sefydlwyd er mwyn diogelu'r aelod-wladwriaethau rhag fygythiad gan NATO (a sefydlwyd ym 1949) ar ôl ymuniad Gorllewin yr Almaen â'r sefydliad hwnnw. Drafftiwyd y cytundeb gan Khrushchev ym 1955 ac fe'i arwyddwyd ar 14 Mai 1955 yn Warsaw.

Aeloedau'r Cytundeb oedd:

Arwyddwyd y cytundeb gan bob un o wledydd Dwyrain Ewrop, heblaw am Iwgoslafia. Pwrpas y cytundeb oedd y byddai'r aelodau yn amddiffyn ei gilydd rhag ymosodiad o du allan. Daeth y cytundeb i ben ar 31 Mawrth 1991 ar ôl cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, ac fe'i ddiddymwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf ym Mhrâg. Gadawodd Albania'r cytundeb ym 1961 ar ôl i'w llywodraeth Stalinaidd ochri gyda Tsieina yn dilyn hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina.

Hanes

Rheolwyd y cytundeb gan yr Undeb Sofietaidd, ac fe rwystrodd yr undeb gwledydd eraill rhag gadael, er enghraifft yn ystod Chwyldro Hwngari ym 1956. Bwriadodd Hwngari adael y cytundeb i fod yn niwtral, ond daeth byddin yr Undeb Sofietaidd i'r wlad i atal y chwyldro rhag lwyddo.

Yn ystod Gwanwyn Prâg ym 1968 aeth byddin Sofietaidd i Tsiecoslofacia er mwyn stopio diwygiadau democrataidd yn y wlad. Felly, daeth polisi yr Undeb Sofietaidd ar gyfer Cytundeb Warsaw yn amlwg: rhwystro pob aelod rhag droi yn wlad gyfalafol (Athrawiaeth Brezhnev).

Parhaodd y Rhyfel Oer am dros 35 o flynyddoedd, ond ni fu yna'r un frwydr rhwng gwledydd Cytundeb Warsaw a gwledydd NATO. Ym mis Rhagfyr 1988 datganodd Mikhail Gorbachev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, athrawiaeth newydd yn lle Athrawiaeth Brezhnev. Ar ôl hynny gadawyd i bob aelod-wladwriaeth i ddilyn eu ffyrdd eu hunain. O ganlyniad, dechreuodd cyfnod o ddiwygiadau ym mhob un o'r gwledydd o 1989 ymlaen. Gadawodd nifer ohonyn nhw'r cytundeb bob yn ail er mwyn bod yn fwy annibynnol yn filwrol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd. O ganlyniad diddymwyd y cytundeb ar 1 Gorffennaf 1991.

Ar 12 Mawrth 1999 ymunodd y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Gwlad Pwyl â NATO. Ym mis Mawrth 2004 ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania a Slofacia hefyd (yn ogystal a Slofenia, a oedd yn rhan o Iwgoslafia cyn hynny ac felly ddim yn rhan o Gytundeb Warsaw).

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net