|
Article on other languages:
|
Map Dymaxion gan Buckminster Fuller sy'n dangos eangdiroedd gydag afluniad minimal bron fel un cyfandir di-dor
Mae cyfandir yn ehangdir enfawr o dir. Maent yn cael eu diffinio gan ddaearyddiaeth gan amlaf, ond hefyd gan wleidyddiaeth (gweler daearwleidyddiaeth) a diwylliant. Fel arfer ym Mhrydain ceir saith cyfandir. Mae gwyddonwyr yn credu mai lafa yn llifo i arwyneb y Ddaear o'r craidd tawdd wnaeth creu'r cyfandiroedd. Ar yr arwyneb, ymsolidodd y lafa i gramen, a wnaeth erydu'n gwaddodion trwy brosesau hindreuliad. Ffurfiodd, chwalodd ac ailffurfiodd y gwaddodion yma tro ar ôl tro, wedi'u heffeithio gan nwyon poeth yn codi o ganol y Ddaear. Ar ôl caledu, trodd y llwyfandiroedd gwaddodol oedd ar ôl yn y cyfandiroedd, sydd yn gorchuddio tua 30% o wyneb y Ddaear.
DosbarthiadMae daearyddwyr, daearegwyr, llywodraethau, economegwyr, hanesyddion a phobl cyffredin i gyd yn dadlau dros ddosbarthiad cyfandiroedd, ac nid yw cymdeithas eto wedi penderfynu ar union ffiniau'r cyfandiroedd, neu hyd yn oed pa rai sydd yn gyfandiroedd, a pha rai i ddosbarthu fel uwchgyfandiroedd, isgyfandiroedd, microgyfandiroedd, ac ynysoedd. Bu'n arfer cyffredinol i gyfrif bod yna saith cyfandir yn y byd i gyd, ond mae nifer dal yn uno Ewrop ac Asia a Gogledd a De America, yn dadlau am wledydd trawsgyfandirol (megis Rwsia a'r Aifft) ac yn cwestiynu ffiniau, statws ac hyd yn oed enw Awstralia/Awstralasia/Oceania. Mae'n debyg mai Antarctica yw'r unig gyfandir y mae pawb yn cytuno arno. Mae'r enw cyfandir ei hunan yn awgrymu taw pwnc daearyddol yw dosbarthiad cyfandiroedd, ond yn ddiweddar bu rhai yn galw am ailddosbarthiad cyfandiroedd yn ôl rhesymau gwleidyddol (e.e. cefnogaeth am esgyniad (annhebygol) Canada i'r Undeb Ewropeaidd) neu am resymau hanesyddol (e.e. cynhwysiad gwledydd megis Iwerddon ac Angola yn yr Amerig). ModelauNid yw pawb yn cytuno sawl cyfandir sydd nac ar faint a ffiniau'r cyfandiroedd. Defnyddir nifer o fodelau ar draws y byd:
Dysgir y model 7-cyfandir yn China, rhannau o Orllewin Ewrop, a'r rhan fwyaf o wledydd Saesneg. Dysgir y model 6-chyfandir (un America) yn America Ladin, Iberia, a'r rhan fywaf o Orllewin Ewrop. Dysgir y model 6-chyfandir (Ewrasia) yn Rwsia, Dwyrain Ewrop, a Japan. Mae'n well gan y gymuned ddaearyddol y model hon, gan fod Ewrop ac Asia yn yr un tir yn ddaearyddol. Mae rhai haneswyr (megis Jared Diamond) yn defnyddio model 5-cyfandir lle gwahanir Gogledd Affrica o Affrica Is-Saharaidd a'i chynnwys yn Ewrasia, tra bo eraill (megis Andre Gunder Frank) yn ffafrio'r model 4-cyfandir (Affrica-Ewrasia). Ni welir y model 5-cyfandir (Lawrasia) yn aml – dim ond am resymau diwydiannol neu ddaearegol (roedd Gogledd America ac Ewrasia yn un gyfandir blynyddoedd maith yn ôl) y'i defnyddir. Mathau gwahanol o gyfandiroeddUwchgyfandiroedd
Prif erthygl: Uwchgyfandir
Oherwydd symudiadau'r platiau, bu nifer o gyfandiroedd eraill trwy hanes y Ddaear, gyda siapiau cwbl wahanol i gyfandiroedd heddiw, ac mae o i fyny i ddaearegwyr i benderfynu beth oedd ffurfiau [yr eangdiroedd yma. IsgyfandiroeddRhanbarth mawr o gyfandir yw isgyfandir. Nid oes cydwelediad ar beth sy'n gwneud isgyfandir, ond fel arfer gwahanir isgyfandir o weddill y cyfandir gan rhyw tirffurf mawr neu nodwedd ddaearegol, megis cadwyn o fynyddoedd neu blât tectonig. Daearyddiaeth
Gwahaniaethir cyfandir o ynys neu orynys nid yn unig gan faint mwy ond hefyd gan strwythur a datblygiad daearegol. Mae'r ardal gyfandirol – sef yr holl tir uwchben lefel y môr – yn gorchuddio 29% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Mae mwy na dau draean o arwynebedd y tir cyfandirol i ogledd y cyhydedd. Ar ben hynny, mae'r eangdiroedd cyfandirol yn cynnwys yr ysgafellau cyfandirol suddedig, sy'n goleddu o lannau cefnforol y cyfandiroedd i ddyfnderoedd o dua 183 m; ar dua'r pwynt yma mae'r plymiad mwy sydyn yn dechrau i'r ffos gefnforol a elwir yn y llethr cyfandirol. Os ystyrir yr ysgafellau cyfandirol, mae cyfanswm yr ardal gyfandirol yn cynyddu i 35% o arwynebedd y Ddaear. Mae ynysoedd sy'n sefyll ar ysgafell gyfandirol rhyw cyfandir yn cael eu hystyried fel rhan o'r cyfandir hwnnw. Mae enghreifftiau yn cynnwys Prydain Fawr ac Iwerddon yn Ewrop; Ynysfor Malei a Siapan yn Asia; Gini Newydd, Tasmania, a Seland Newydd yn Awstralasia; a'r Lasynys yng Ngogledd America. DaearegYn naeareg, diffinir cyfandiroedd yn nhermau strwythur cramennol y Ddaear a phlatiau tectonig, yn hytrach nag arwynebau tir. Gweler hefydMae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net