Culfor Bering

Article on other languages:

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Llun o Gulfor Bering o loeren
Siart forwrol o Gulfor Bering

Culfor Bering (Rwseg: Берингов пролив, Saesneg: Bering Strait) yw'r culfor rhwng Penrhyn Dezhnev yn Rwsia, y rhan fwyaf dwyreiniol o gyfandir Asia, a Cape Prince of Wales yn Alaska, rhan fwyaf gorllewinol cyfandir Gogledd America.

Mae'r culfor, sydd tua 92 km (58 milltir) o led a 30 - 50 m o ddyfnder, yn cysylltu Môr Chukchi (rhan o Gefnfor Iwerydd) gyda Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel. Enwyd y culfor ar ôl y fforiwr Vitus Bering, Daniad yng ngwasanaeth Rwsia, a groesodd y culfor yn 1728, er y gwyddir i Semyon Dezhnev hwylio trwy'r culfor yn 1648.

Yn ystod Oes yr Ia roedd tir yn cysylltu dwy ochr Culfor Bering, a dros y tir yma y croesodd pobl gynnar o gyfandir Asia i gyfandir America. Gwyntyllwyd y syniad o bont neu dwnel yn cysylltu dwy ochr y culfor, ond ar hyn o bryd bychan yw'r boblogaeth ar y ddwy ochr, ac nid oes ffyrdd yn cysylltu'r sefydliadau ar lannau'r culfor a gweddill y wlad ar yr ochr Rwsaidd nag ochr Alaska. Mae gwahaniaeth amser o 21 awr rhwng y ddwy ochr, gyda'r ochr Rwsaidd ddiwrnod ar y blaen i'r ochr Americanaidd.

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net