Poll without page-refresh
Article on other languages:
Sianel forwrol sy'n cysylltu dau fôr neu ddwy ran o fôr yw culfor . Yn aml mae culfor yn dramwyfa pwysig i longau ac felly o bwysigrwydd economaidd a stragegol. Yr unig enghraifft o gulfor yng Nghymru yw Afon Menai , rhwng Môn ac Arfon .
Rhai culforoedd enwog
Culfor Bab el-Mandeb , rhwng y Môr Coch a Chefnfor India
Culfor Bass , rhwng Tasmania a thir mawr Awstralia
Culfor Bering , rhwng Alaska , UDA a Siberia , Rwsia
Bosphorus , rhwng Môr Marmara a'r Môr Du
Culfor Cook , rhwng Ynys y De ac Ynys y Gogledd yn Seland Newydd
Culfor Corea , rhwng De Corea a Siapan
Culfor Davis , rhwng Greenland ac Ynys Baffin , Canada
Dardanelles (Hellespont yr Henfyd ), rhwng Môr Marmara a'r Môr Aegeaidd
Culfor Denmarc , rhwng Greenland a Gwlad yr Iâ
Culfor Dover , rhwng Caint a Fflandrys yn y Môr Udd
Culfor Fflorida , rhwng Fflorida a Chiwba a'r Bahamas
Culfor Gibraltar , rhwng Cefnfor Iwerydd a'r Môr Canoldir
Culfor Hormuz , rhwng Y Gwlff a Gwlff Oman
Culfor Magellan , De America
Culfor Makassar , rhwng Borneo a Sulawesi
Culfor Melaca , rhwng Môr Andaman a moroedd Indonesia yn ne-ddwyrain Asia
Culfor Messina , rhwng tir mawr Yr Eidal a Sisili
Culfor Palk , rhwng India a Sri Lanka
Culfor Yucatan , rhwng Yucatan (Mecsico ) a Chiwba