Borneo

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Ynys Borneo. Melyn yn donodi rhannau sy'n perthyn i Indonesia, brown i Malaysia, gwyrdd i Brunei.
Ynys Borneo. Melyn yn donodi rhannau sy'n perthyn i Indonesia, brown i Malaysia, gwyrdd i Brunei.

Mae Borneo yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Gydag arwynebedd o 743,330 km² (287,000 milltir sgwar), hi yw'r drydedd ynys yn y byd o ran maint. Mae rhan ddeheuol a chanol yr ynys yn perthyn i Indonesia, dan yr enw Kalimantan. Yn Indonesia defnyddir "Kalimantan" am yr ynys i gyd. Rhennir y rhan ogleddol rhwng Malaysia a gwladwriaeth annibynnol Brunei.

I'r gorllewin o Borneo mae Rhagynys Malaya ac ynys Sumatera. I'r de mae ynys Jawa ac i'r dwyrain Sulawesi. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kinabalu yn Sabah, Malaysia, sy'n 4,095 m (13,435 troedfedd) o uchder.

Rhennir rhan Indonesia o'r ynys yn bedair talaith: Dwyrain Kalimantan, De Kalimantan, Gorllewin Kalimantan a Canolbarth Kalimantan. Rhennir rhan Malaysia yn ddwy dalaith, Sabah a Sarawak.

Mae cyfoeth eithriadol o fywyd gwyllt ar Borneo, er enghraifft 15,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuog, yn cynnwys 3,000 o rywogaethau o goeden, 221 rhywogaeth o famal a 420 rhywogaeth o aderyn. Ar un adeg roedd fforest law drofannol yn gorchuddio rhan fawr o'r ynys, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o'r fforest yma wedi diflannu. Mae poblogaeth ddynol yr ynys yn cynnwys tua 30 grŵp ethnig.

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net