|
Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r chweched wlad fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys yr ynys Tasmania, sydd yn dalaith o'r wlad. Gwledydd cyfagos yw Seland Newydd sydd i'r de ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papiwa Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r Lladin terra australis incognita ("Y tir na ŵyr neb amdano"). HanesCyfaneddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o'r famwlad iddo. Alltudiwyd rhyw 1800 ohonynt o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr a fu a rhan yn nherfysgoedd Merthyr. Taleithiau AwstraliaTiriogaethau Awstralia
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net