Asia

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire
Map o'r byd yn dangos Asia
Map o'r byd yn dangos Asia
Delwedd cyfansawdd lloeren o Asia
Delwedd cyfansawdd lloeren o Asia

Gyda arwynebedd tir o 44.4 miliwn km² a phoblogaeth o tua 3.4 biliwn, Asia yw'r cyfandir mwyaf yn y byd. Fe'i diffinir yn draddodiadol fel y rhan o ehangdir Affrica-Ewrasia sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gamlas Suez a Mynyddoedd yr Ural, ac i'r de o Fynyddoedd y Cawcasws, Môr Caspia a'r Môr Du. Mae tua 60% o boblogaeth ddynol y byd yn byw yn Asia. Dim ond 2% o'r boblogaeth honno sydd yn byw yn hanner gogleddol a mewndirol y cyfandir, sef Siberia, Mongolia, Kazakstan, Xinjiang, Tibet, Qinghai, gorllewin Uzbekistan a Turkmenistan); mae'r 98% arall yn byw yn hanner arall y cyfandir, i'r de.

Taflen Cynnwys

Geirdarddiad

Daw'r gair Asia o'r gair Groeg Ασία (Asia). Digwydd y gair am y tro cyntaf yng ngwaith yr hanesydd Groeg Herodotus (c. 440 C.C.), sy'n cyfeirio at Asia Leiaf ac Asia wrth drafod Rhyfeloedd Groeg a Phersia a'r Ymerodraeth Bersiaidd.

Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth Asia

Mae Asia yn cynnwys tua thraean o dir y byd (44.4 miliwn km²). Mae ei hyd eithaf o'r gorllewin i'r dwyrain yn 11,000 km, ac yn 8,500 km o'r gogledd i'r de. Mae'r rhan fwyaf o Asia, o bell ffordd, yn gorwedd yn uwch na'r Cyhydedd yn hemisffer y gogledd. Dim ond rhai rhannau o Dde-ddwyrain Asia ac is-gyfandir India sydd i'r de o'r Cyhydedd.

Mae'r cyfandir yn cyffwrdd â'r Môr Arctig yn y gogledd, y Cefnfor Tawel yn y dwyrain a Chefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae Asia yn ffinio ag Ewrop, y Môr Canoldir, rhan ddwyreiniol Gogledd Affrica a'r Môr Coch. Mae Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel, yn gwahanu Siberia yng ngogledd-ddwyrain Asia a Gogledd America. Gorynys Arabia, India, Gorynys Malaya, Korea a Kamchatka yw'r mwyaf a'r pwysicaf o'r gorynysoedd niferus ar y cyfandir. Oddi ar arfordir y gogledd-ddwyrain ceir ynys Sakhalin, ynysoedd Japan a Taiwan.

Yn is i lawr mae De-ddwyrain Asia yn cynnwys nifer fawr iawn o ynysoedd; y pwysicaf ohonynt yw ynysoedd Luzon a Mindanao yn y Pilipinas, Borneo, yr ynysoedd Indonesiaidd Sumatra, Java a Sulawesi, Timor a Guinea Newydd. Yr ynysoedd pwysicaf oddi ar arfordir de Asia yw Ceylon (Sri Lanka), y Maldives ac Ynysoedd Andaman. Mae'r moroedd llai sy'n perthyn i Asia yn cynnwys y Môr Coch rhwng Arabia a gogledd-ddwyrain Affrica, Môr Arabia rhwng dwyrain Arabia a gorllewin India, Bae Bengal rhwng dwyrain India a Myanmar, Môr De China, Môr Dwyrain China rhwng Taiwan a Japan, y Môr Melyn rhwng gogledd-ddwyrain China a Korea, Môr Japan rhwng Japan a Manchuria, a Môr Okhotsk rhwng Siberia a Kamchatka.

Mae cadwyni mynydd pwysicaf Asia yn cynnwys Mynyddoedd Cawcasws, yr Hindu Kush, y Karakoram, Mynyddoedd Pamir, y Tien Shan, y Kunlun Shan a'r Himalaya ei hun sy'n cynnwys Everest, mynydd uchaf y byd.

Hanes

Prif erthygl: Hanes Asia

Crefyddau

Mae Asia yn gartref i'r rhan fwyaf o grefyddau mawr y byd ers canrifoedd lawer. Mae Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam yn tarddu o'r un ardal yng ngorllewin Asia. India yw crud Hindŵaeth, Siciaeth a Bwdiaeth, a daw Taoaeth a Chonffiwsiaeth o China. Yn y gogledd Arctaidd Shamaniaeth yw'r grefydd frodorol ac yn Japan mae Shinto yn cydfyw â Bwdiaeth.

Economi

Yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth (PPP), ceir yr economi genedlaethol fwyaf yn Asia yn Ngweriniaeth Pobl China (GPCh). Dros y degawd diweddaf, mae economïau China ac India wedi tyfu'n gyflym iawn, gyda'r ddwy wlad yn mwynhau cyfradd cynydd blynyddol cyfartalog o dros 7%. GPCh yw'r economi ail fwyaf yn y byd ar ôl yr UDA, ac mae'n cael ei dilyn gan Japan ac India fel economïau trydydd a phedwaredd mwyaf y byd yn ôl eu trefn (yn nesaf daw economïau'r gwledydd Ewropeaidd, er enghraifft yr Almaen, DU, Ffrainc a'r Eidal).


Economi Asia
Poblogaeth: 4.001 biliwn
CMC (PPP): US$18.077 triliwn
CMC (Pres): $8.782 triliwn
CMC/pen (PPP): $4,518
CMC/pen (Pres): $2,195
Cynydd blynyddol yn
CMC y pen:
Incwm y 10% top:
Miliwnyddion: 2.0 miliwn (0.05%)

Nwyddau naturiol

Asia yw cyfandir mwyaf y byd, ac felly'n gyfoethog mewn nwyddau naturiol, megis petroliwm a haearn.

Mae cynhyrchiant uchel ym myd amaeth, yn enwedig yn achos reis, yn cynnal dwysedd poblogaeth uchel yn y gwledydd sydd yn yr ardal gynnes a llaith ar y Cyhydedd neu yn ei gyffiniau. Mae'r prif cynhyrchion amaethyddol eraill yn cynnwys gwenith ac ieir.

Mae coedwigaeth i'w chael ar raddfa helaeth drwy Asia i gyd, ac eithrio de-orllewin a chanolbarth y cyfandir. Mae pysgota yn un o brif ffynonnellau bwyd Asia, yn enwedig yn Japan.

Gwledydd Asia

Gwledydd o Asia
Cyfandiroedd y Ddaear


Affrica-Ewrasia

Yr Amerig

Ewrasia


Affrica

Antarctica

Asia

Ewrop

Gogledd America

De America

Oceania

Uwchgyfandiroedd daearegol :  Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur  · Vaalbara

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


Giant Panda

Mercedes Car
James Bond Guide
This site monitored by SitePinger.net