|
Article on other languages:
|
Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Angola neu Angola (ym Mhortiwgaleg: República de Angola). Mae hi ar arfordir Cefnfor Iwerydd a gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gogledd, Zambia i'r dwyrain, a Namibia i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1975. Prifddinas Angola yw Luanda.
DaearyddiaethMae Angola yn wlad yn ne-orllewin Canolbarth Affrica ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd i'r de o Afon Congo ac eithrio Llain Cabinda a wahanir o weddill y wlad gan ddarn o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo. HanesCyrhaeddodd y Portiwgaliaid Angola ar ddiwedd y 15fed ganrif. Yn raddol cawsai'r wlad ei meddianu ganddynt a'i throi'n drefedigaeth Bortiwgalaidd. Arosodd dan reolaeth Portiwgal hyd 1975 (ac eithrio cyfnod byr ym meddiant yr Iseldiroedd o 1641 hyd 1648). Yn 1951 cafodd ei gwneud yn Dalaith Dramor ac felly'n rhan integreiddiedig o Bortiwgal. Yn ystod y 1950au a'r 1960au tyfodd cenedlaetholdeb Angolaidd a ffurfiwyd tri mudiad annibyniaeth: yr MPLA (Mudiad Poblogaidd dros Ryddid i Angola), yr FNLA (Ffrynt Cenedlaethol dros Ryddid i Angola) ac UNITA (Undeb Cenedlaethol dros Ryddid Llwyr i Angola). Yn 1974 cytunodd Portiwgal mewn egwyddor i roi annibyniaeth i'r wlad, ond yn wyneb anghydfod rhwng y tri mudiad annibyniaeth a gwrthwynebiad yr ymsefydlwyr Portiwgalaidd torrodd rhyfel cartref allan rhwng y carfanau hynny. Meddianwyd gwahanol rannau o'r wlad gan bob un o'r carfanau arfog. Pan grantiwyd annibyniaeth y canlyniad oedd i'r MPLA gyhoeddi ei llywodraeth ei hun yn Luanda dan yr enw Gweriniaeth Pobl Angola ac i'r FNLA a'i cynghreiriaid UNITA gyhoeddi Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Angola â'i phrifddinas yn Huambo. I gymhlethu'r darlun, roedd yr MPLA yn cael ei cefnogi gan yr Undeb Sofietaidd a Cuba tra roedd yr FNLA yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd Ewropeaidd. Cafodd UNITA gryn gefnogaeth gan lywodraeth apartheid De Affrica. Am gyfnod anfonodd Cuba filwyr i helpu'r MPLA ac aeth Che Guevara ei hun yno i helpu'r llywodraeth newydd. Enillodd y MPLA yn y diwedd ond cafodd y rhwygau a achoswyd gan y rhyfel effaith hir-dymor ar fywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad. Iaith a diwylliantBantu o ran eu tras yw mwyafrif y bobl. Ceir hefyd bobl o dras gymysg a nifer bach o bobl o dras Portiwgalaidd ac Ewropeaidd. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion Catholig. EconomiMae Angola'n mwynhau cyfoeth o adnoddau mwynol, yn cynnwys olew, haearn a deiamwntau. Mae tyfu coffi ar gyfer y farchnad dramor yn elfen bwysig yn economi'r wlad yn ogystal. Unedau gweinyddolRhennir Angola yn ddeunaw talaith (províncias) a 158 ardaloedd dinesig (municípios). Y taleithiau yw: 1 Bengo |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net