Afon Moselle

Article in other languages:

Afon Moselle ger Wolf.

Afon sy'n llifo trwy Ffrainc, Luxembourg a'r Almaen i lifo i mewn i afon Rhein yw afon Moselle (Ffrangeg: Moselle, Almaeneg: Mosel). Mae tua 545 km o hyd.

Ceir tarddle'r Moselle ar lethrau gorllewinol y Ballon d'Alsace ym mynyddoedd y Vosges. Llifa trwy drefi Épinal, Toul, Pont-à-Mousson, Metz a Thionville yn Ffrainc, Schengen, Remich, Grevenmacher a Wasserbillig yn Luxembourg a Trier, Bernkastel-Kues a Cochem yn yr Almaen, cyn cyrraedd afon Rhein yn Koblenz.

Mae'r rhan o ddyffryn Moselle rhwng Nancy, Metz a Thionville yn Ffrainc yn ardal ddiwydiannol bwysig, tra mae'r dyffryn yn Ffrainc, yr Almaen a Luxembourg yn enwog am ei win.

Questions for article:

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.