|
Affrica neu Yr Affrig yw'r cyfandir mwyaf ond un yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth, yn dilyn Asia. Mae tua 30,370,000 km² o dir yn Affrica - gan gynnwys ei hynysoedd cyfagos - sef 5.9% o arwynebedd y Ddaear, a 20.3% o arwynebedd tir y Ddaear. Mae dros 840,000,000 o bobl (2005) yn byw yng 61 tiriogaeth Affrica, sef dros 12% o boblogaeth ddynol y byd.
Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth Affrica
Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddi arwynebedd o c. 30,360,288 km²; (11,722,173 mi sg), gan gynnwys yr ynysoedd. Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (mae Camlas Suez yn gorwedd rhyngddynt), sydd 130 km (80 milltir) o led. (Yn nhermau gwleidyddol, ystyrir penrhyn Sinai yn yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd.) O'r pwynt mwyaf gogleddol, sef Cap Blanc (Ra’s al Abyad) yn Tunisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Penrhyn Vert yn Senegal, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir). Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km²; (3,760,000 mi sg) yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn. Hanes
Prif erthygl: Hanes Affrica
Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, â'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9-3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3-1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000-1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol. Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr Hen Aifft a Kush, Ethiopia, Zimbabwe Fawr, ymerodraeth Mali a theyrnasoedd y Maghreb. Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Guinea, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision. Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd "Ymgiprys am Affrica". Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe enillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol. Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd. GwleidyddiaethAffrica Drefedigaethol
Map yn dangos ceisiadau Ewropeaidd i'r Affrig ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Fe ddi-sefydlogodd gwladychiaeth cytbwysedd grwpiau ethnig niferus y cyfandir, effaith sydd i'w deimlo yng ngwleidyddiaeth Affrica hyd heddiw. Cyn dylanwad Ewropeaidd, nid oedd ffiniau cenedlaethol yn llawer o broblem, ac ar y cyfan fe ddilynodd Affricanwyr arferion ardaloedd eraill y byd, megis Arabia, lle'r oedd tiriogaeth grŵp yn gyfath â'i ddylanwad milwrol neu fasnachol. Roedd gan yr arferiad Ewropeaidd o lunio ffiniau o gwmpas tiriogaethau, i'w arwahanu o diriogaethau'r pŵeroedd trefedigaethol eraill, yr effaith o arwahanu grwpiau ethnig cyfagos, neu orfodi gelynion traddodiadol i gyd-fyw, heb wahandir rhyngddynt. Er enghraifft, er bod Afon y Congo yn ymddangos fel ffin ddaearyddol naturiol, roedd pobl y ddwy ochr yn rhannu iaith, diwylliant a sawl tebygrwydd arall. Roedd rhaniad y tir rhwng Gwlad Belg a Ffrainc ar hyd yr afon yn arwahanu'r grwpiau yma o'i gilydd. Roedd y rhai oedd yn byw yn y Sahara neu'r Sahel ac wedi arfer masnachu dros y cyfandir am ganrifoedd yn gorfod croesi "ffiniau" oedd yn bodoli dim ond ar fapiau Ewropeaidd. Economi
Affrica yw gyfandir cyfannedd tlotaf y byd: darganfu Adroddiad Datblygiad Dynol 2003 y Cenhedloedd Unedig (o 175 o wledydd) caiff safleoedd 151 (Gambia) i 175 (Sierra Leone) eu cymryd i gyd gan wledydd Affricanaidd. Fe gafodd Affrica trawsnewidiad ansefydlog ac ansicr o wladychiaeth, ac mae effeithiau hyn i'w gweld o hyd; mae cynydd llygredigaeth ac unbennaeth wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefyllfa economaidd wael. Er bod tyfiant cyflym yn China ac India erbyn hyn, a thyfiant cymedrol yn America Lladin, wedi codi miliynau tu hwnt i fywoliaeth ymgynhaliol, mae Affrica wedi symud tuag yn ôl yn nhermau masnach dramor, buddsoddiad, ac incwm y pen. Mae gan y tlodi yma effeithiau eang, yn cynnwys disgwyliad oes is, trais, ac ansefydlogrwydd - ffactorau sydd yn eu tro'n gwaethygu'r tlodi. Mae llwyddiannau economaidd y cyfandir yn cynnwys Botswana a De Affrica, sydd wedi datblygu cymaint bod ganddo gyfnewidfa stoc aeddfed ei hun. Mae dwy brif reswm am hyn: cyfoeth nwyddau naturiol y wlad (prif gynhyrchydd aur a diemyntau'r byd); a system gyfreithiol sefydledig y wlad. Hefyd mae gan De Affrica mynediad i gyfalaf economaidd, nifer o farchnadoedd a llafur medrus. Mae gwledydd Affricanaidd eraill (megis Ghana) yn gwella'n gymharol, ac mae gan rai (megis yr Aifft) hanes hir o lwyddiant masnachol ac economaidd. Ieithoedd
Map yn dangos dosbarthiad teuluoedd iaith Affricanaidd a rhai o brif ieithoedd Affrica. Mae'r teulu Affro-Asiatig yn ymestyn o'r Sahel i Dde Orllewin Asia. Rhannwyd Niger-Congo i ddangos maint is-deulu Bantu.
Mae rhan fwyaf o amcangyfrifon yn dweud fod gan Affrica dros fil o ieithoedd. Mae yna bedwar prif deulu iaith sy'n frodorol i Affrica.
Gwledydd Affrica
Rhanbarthau Affrica:
██ De Affrica
Map topograffigol o Affrica.
Gogledd Affrica
Prif erthygl: Gogledd Affrica
Mae llawer o dir Gogledd Affrica yn sych iawn ac yn llawn diffeithiwch. Adnabyddir rhanbarth gorllewinol Gogledd Affrica fel y Maghreb. Gorllewin Affrica
Prif erthygl: Gorllewin Affrica
Canolbarth Affrica
Prif erthygl: Canolbarth Affrica
Mae canol Affrica wedi ei gorchuddio â fforestydd, ac mae'n boeth a gwlyb iawn yno. Mae'r cyhydedd yn mynd trwy ganol Affrica.
Dwyrain Affrica
Prif erthygl: Dwyrain Affrica
Horn Affrica
Prif erthygl: Horn Affrica
De Affrica
Prif erthygl: De Affrica (rhanbarth)
Gweler hefyd
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
Mercedes Car
This site monitored by SitePinger.net